Dirprwy Bennaeth yn ennill Aur yng Ngwobr Addysgwr Eithriadol y WFCP

Yn dilyn cyhoeddiad y Canllaw Arfer Gorau a lansiwyd yn ddiweddar gan Ffederasiwn Colegau a Pholytechnigau’r Byd (WFCP), rydym yn dathlu bod ein Dirprwy Bennaeth wedi ennill y wobr aur.

Cyflwynwyd y Wobr Aur Rhagoriaeth ar gyfer ‘Addysgwr Eithriadol’ i Viv Buckley fis Mehefin diwethaf, wrth iddi hawlio’r teitl o blith rhestr o gystadleuwyr rhyngwladol uchel eu parch. Mae Gwobrau Rhagoriaeth WFCP yn cydnabod y sefydliadau sy’n dangos arloesedd ac ymatebolrwydd yn y sector Addysg Bellach a’r unigolion sy’n cyfrannu at eu gweledigaeth. Darllenwch y canllaw lawn o’r gwobrau a’r enillwyr.

Mae Viv wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad i’r sector Addysg Bellach, ei chyflawniadau fel ymarferydd addysgol a’i hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar raddfa fyd-eang.

Dywedodd y Pennaeth a Phrif Weithredwr, Simon Pirotte:

“Mae Viv yn ymarferydd ac yn arweinydd eithriadol ac mae’r wobr hon yn dyst i hynny. Mae Viv yn ysbrydoli cydweithwyr a dysgwyr yn ddyddiol, ac rwy wrth fy modd ei bod wedi cael ei chydnabod yn rhyngwladol gyda’r wobr wirioneddol ragorol hon. Llongyfarchiadau, Viv!”

Mae Viv wedi gweithio yn y maes Addysg Bellach am yr 20 mlynedd diwethaf, ar ôl dechrau ei gyrfa fel athrawes. Bellach yn Ddirprwy Bennaeth yng Ngholeg Penybont, mae Viv wedi sbarduno taith y Coleg i fod yn un o sefydliadau AB gorau’r Deyrnas Unedig.

Wrth fyfyrio ar ei chyflawniadau a’i hethos gwaith, dywedodd Viv:

“Byddwch yn ddewr ac yn feiddgar. Rhowch gynnig ar bethau newydd ac os nad ydyn nhw’n gweithio, ceisiwch eto! Gyda’r tîm cywir o’ch cwmpas, gallwch chi wir wneud gwahaniaeth a chael effaith. Gosodwch y bar yn uchel – ni fyddwch bob amser yn ei gyrraedd ond bydd anelu am ragoriaeth bob amser yn arwain at lwyddiant, neu o leiaf yn brofiad gwerth chweil y gall pawb ddysgu ohono.”

Yn 2018, enillodd Viv Uwch-gymrodoriaeth ‘Advanced Higher Education’ i gydnabod ei gallu i gyflawni newid a hwyluso gwelliannau yn y sector AB. Mae hi hefyd wedi bod yn rhan o raglen ‘Arwain Cymru’ Llywodraeth Cymru, a ddarperir ar y cyd â Chymdeithas y Colegau a Cholegau Cymru. Mae Colegau Cymru yn aelod o WFCP ac wedi ymrwymo i ddatblygu cysylltiadau sy’n helpu’r sector i ffynnu, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. I ddysgu mwy am y WFCP, ewch i wfcp.org/about

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital Technologies
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Engineering
English
Equine
ESOL
Facilities Management
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Social Care
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Languages
Leadership and Management
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
NPTC
NPTC
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
STEM
STEM
Step Up
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch
Mewngofnodi Fy Ffefrynnau English Language English
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen Instagram
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn