Rydym wrth ein bodd o fod wedi ennill y teitl Darparwr Hyfforddiant Eithriadol y Flwyddyn ar gyfer sefydliadau mawr yn seremoni wobrwyo ddiweddaraf y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI). Roedd Cinio 75-mlwyddiant y Llywydd, a gynhaliwyd yn yr Amgueddfa Byd Natur yn Llundain ar 22 Tachwedd, yn cydnabod arweinwyr eithriadol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Mae’r wobr yn cydnabod Tîm Dysgu Seiliedig ar Waith y Coleg, sy’n hyrwyddo’r CMI a’r buddion y mae’n eu darparu i unigolion a sefydliadau.
“Rydym yn hynod falch o ennill y wobr fawreddog hon sy’n cydnabod ein gwaith rhagorol yn cefnogi datblygiad arweinyddiaeth. Mae derbyn y wobr hon, ochr yn ochr â’r arweinwyr gorau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, yn anrhydedd llwyr. Mae ein tîm arweinyddiaeth a rheolaeth gwych, dan arweiniad Michelle Corker, yn cefnogi partneriaid sy’n gyflogwyr i ddatblygu arweinwyr eithriadol ar bob lefel yn eu sefydliadau. Mae cyfres CMI o gymwysterau a’r llwybr dilyniant i fod yn Rheolwr Siartredig yn darparu fframwaith gwych i ni deilwra ein cefnogaeth.”
Matthew Williams, Is-bennaeth ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith a Gweithgarwch Masnachol yng Ngholeg Penybont
Mae Coleg Penybont yn gweithio gyda sefydliadau gan gynnwys TATA Steel a Heddlu De Cymru i ddatblygu modelau darparu cydweithredol, gyda llawer o fyfyrwyr yn llwyddo i wneud cynnydd yn eu swyddi.
Mae dysgu proffesiynol a datblygu arweinyddiaeth hefyd wrth galon gweledigaeth strategol y Coleg. Mae arweinwyr a darpar arweinwyr yn y Coleg yn cymryd rhan yn ei raglen Arweinyddiaeth Bobl-ganolog arobryn, gyda llawer yn mynd ymlaen i ddilyn hyfforddiant arweinyddiaeth ffurfiol gyda’r CMI.
“Mae ennill y wobr hon yn dyst gwych i dalent, ymroddiad ac angerdd ein pobl, a’n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn galluogi pob un o’n myfyrwyr i fod y cyfan y gallant fod.”
Michelle Corker, Rheolwr Cyflenwi’r Sector ar gyfer Arwain a Rheoli a Rheoli Cyfleusterau yng Ngholeg Penybont