Rydym yn hynod falch ein bod wedi dechrau yn swyddogol ar gam olaf adeiladu ein Hacademi STEAM, fydd yn agor yn ein Campws ym Mhencoed ym mis Medi. Caiff y cyfleuster ei drosglwyddo ddiwedd mis Mehefin, ac ar ôl hynny bydd y Coleg yn cwblhau gosod celfi mewnol ynddo.
Mae’r cam olaf yn cynnwys amrywiaeth o wiriadau ac archwiliadau peirianneg trydanol. Mae hyn yn cynnwys profi gwasanaethau trydanol a mecanyddol, profion acwstig, diogelwch tân a thrydanol, awyriant, mân wallau ac, yn olaf, lanhau cyn y gellir comisiynu’r adeilad yn llawn fel y gall gael ei ddefnyddio gan ein myfyrwyr, staff a’r gymuned.
Cafodd y prosiect ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif. Nod hyn yw trawsnewid profiad dysgu myfyrwyr, gan sicrhau y cânt eu dysgu mewn ystafelloedd dosbarth a gweithdai gyda’r technolegau a’r cyfleusterau sydd eu hangen i gyflwyno cwricwlwm 21ain Ganrif.
Bu myfyrwyr a staff o’n hadran Garddwriaeth hefyd yn cynorthwyo gydag elfen tirlunio yr adeilad, gan sicrhau fod cynnwys mannau gwyrdd yn adlewyrchu ymrwymiad y Coleg i’r amgylchedd a llesiant. Caiff yr ymrwymiad hwn ei gefnogi ymhellach drwy i’r adeilad gael ei gynllunio fel un BREEAM (‘Building Research Establishment environmental Assessment Method’) Rhagorol.
Edrychwch ar ddatblygiadau diweddar Academi STEAM ar ein huchafbwyntiau Straeon Instagram.