Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Coleg Penybont wedi cymryd cam mawr ymlaen yn ei uchelgais o adeiladu ei ddatblygiad campws newydd yng nghanol y dref.
Yn dilyn cyfarfod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 27 Gorffennaf, mae’r Coleg wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ei Gampws newydd yng nghanol y dref. Disgwylir i’r datblygiad 13,100 medr sgwâr gael ei adeiladu ar safle’r hen Orsaf Heddlu a maes parcio aml-lawr yng nghanol Pen-y-bont.
Dechreuwyd ar y gwaith o ddymchwel yr Orsaf Heddlu ym mis Mai i wneud lle ar gyfer y ddau adeilad campws arfaethedig a fydd yn darparu cyfleusterau addysgu a dysgu eithriadol ar gyfer ystod eang o gyrsiau.
Mae Rio Architects wedi darparu dyluniadau’r campws newydd, ar ôl partneru’n flaenorol â’r Coleg ar adeiladu’r Academi STEAM sydd wedi ennill gwobrau. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, effeithlonrwydd amgylcheddol ac arloesi technegol, mae’r cynlluniau’n dal llawer o werthoedd sefydliadol craidd y Coleg.
Uchelgais y Coleg yw creu adeilad carbon sero, gyda chyfleusterau dysgu ac addysgu o safon yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer addysg ôl-16 ym Mhen-y-bont. Bydd buddion cymunedol yn cynnwys theatr 200 sedd, siop goffi a mannau cyfarfod hyblyg.
Mae’r cynlluniau trawsnewidiol hyn yn cynrychioli buddsoddiad o £50 miliwn mewn hyfforddi pobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac aelodau o’r gymuned sydd angen cyfleoedd i ailhyfforddi ac ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr. Bydd y buddsoddiad hefyd yn lleihau effaith amgylcheddol y Coleg, gyda chynlluniau i gysylltu â system wres ardal newydd Pen-y-bont ar Ogwr.
Wedi’i ariannu’n rhannol gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, bydd y datblygiad yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o adfywio canol tref Pen-y-bont, cefnogi busnesau lleol a defnyddio cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus â’r dref.
Dilynwch ein Datblygiadau Campws i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect.