Cydnabod rhagoriaeth yn ein Gwobrau Blynyddol 2026
01/07/2026Cynhaliwyd ein seremoni Gwobrau Blynyddol 2026, a gyflwynwyd gan y Dirprwy Bennaeth, Joe Baldwin, yn ein Hacademi STEAM ar 25 Mehefin a dathlwyd llwyddiant rhagorol ymhlith ein myfyrwyr. Rhoddodd y Pennaeth a Phrif Weithredwr, Viv Buckley, araith a wnaeth cydnabod yr ymrwymiad, y gwydnwch a’r cyflawniadau a ddangoswyd gan ddysgwyr drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Yn ystod y noson, cyflwynwyd 27 o wobrau i fyfyrwyr a oedd wedi dangos sgil, angerdd a chymhelliant tuag at eu hastudiaethau, yn ogystal â’r rhai sydd wedi cyfrannu at fywyd coleg ehangach.
Mynychodd dros 100 o westeion y digwyddiad, a noddwyd gan Willmott Dixon. Ymhlith y gwesteion roedd aelodau o’r teulu, tiwtoriaid y Coleg, Llywodraethwyr y Coleg, Sarah Rees AS, Sarah Cooper-Lesadd AS, y Cynghorydd John Spanswick, y Cynghorydd Martin Rock a chymrawd Coleg Penybont, Paul Croke.
Yn dilyn y prif gyflwyniad o wobrau, rhoddwyd dwy wobr derfynol i gydnabod effaith myfyrwyr ar lefel y Coleg cyfan.
Cyflwynwyd y wobr ‘Ymrwymiad i Astudio’ i Sydney Jones, myfyriwr sydd wedi dangos gwelliant sylweddol dros y flwyddyn academaidd. Cyflwynwyd ‘Dysgwr y Flwyddyn yn y Coleg’, a elwir hefyd yn Wobr y Pennaeth, i Gwen Haines i gydnabod ei chyflawniadau rhagorol eleni.
Yn ogystal â’r gwobrau myfyrwyr, cyflwynwyd Gwobr Partneriaeth Cyflogwr i Cardo Group. Mae Cardo Group wedi gweithio mewn cydweithrediad â’r Coleg i ddatblygu talent y dyfodol trwy hyfforddiant prentisiaeth o ansawdd uchel, gan roi profiad diwydiant amhrisiadwy i ddysgwyr a’u helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y sector.
Llongyfarchiadau i’r enillwyr canlynol ar eu gwobrau haeddiannol:
Tegan Thomas – Dysgwr y Flwyddyn mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gwobr Goffa Idris Jones)
Ruby Crowe – Dysgwr y Flwyddyn mewn Astudiaethau Plentyndod (Gwobr Elizabeth John)
Lily Wilcox – Dysgwr y Flwyddyn mewn Celf a Dylunio
Clementine Norton – Dysgwr y Flwyddyn mewn Celfyddydau Perfformio
Phoebe Battersby – Dysgwr y Flwyddyn mewn Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Olivia Moyle – Dysgwr y Flwyddyn mewn Twristiaeth a Lletygarwch
Sophie Davies-Jones – Dysgwr y Flwyddyn mewn Sgiliau
Mackenzie Perham – Dysgwr y Flwyddyn Camu Ymlaen – Campws Penybont
Sydney Jones – Dysgwr y Flwyddyn Camu Ymlaen – Campws Pencoed
Jacob Lloyd- Richards – Dysgwr y Flwyddyn ar gyfer Sgiliau Byw’n Annibynnol
Bethan Thomas – Dysgwr y Flwyddyn mewn TG a Thechnolegau Digidol
Gwen Haines – Dysgwr y Flwyddyn mewn Astudiaethau Tir
Jainaba Jagne – Dysgwr y Flwyddyn mewn Chwaraeon
Sophie Howe – Dysgwr y Flwyddyn mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
David Amanzuruku – Dysgwr y Flwyddyn mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Sophie Hales – Dysgwr y Flwyddyn mewn Adeiladwaith
Paula Cosby – Dysgwr y Flwyddyn Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Freya Bennett – Dysgwr y Flwyddyn ar gyfer Cyrsiau Safonau Uwch ac Astudiaethau Cydweithredol
Brooklyn Wilkinson – Dysgwr y Flwyddyn Prentis Iau
Shelby Weaver-Slaughter – Dysgwr y Flwyddyn ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith (Y Wobr Dominic)
Liam James – Dysgwr Menter y Flwyddyn
Sam Iles – Dysgwr y Flwyddyn – Pencampwr y Gymraeg
Eve Arnell – Dysgwr y Flwyddyn ar gyfer Addysg Uwch (Gwobr Goffa Sandra Francis)
Valentyna Pishun – Dysgwr y Flwyddyn – Sgiliau i Lwyddo – Campws Penybont
Joseph Bain – Dysgwr y Flwyddyn – Sgiliau i Lwyddo – Campws Pencoed













































