Mae Cynllun Kickstart y Llywodraeth yn darparu cyllid i greu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl 16-24 oed ar Gredyd Cynhwysol sydd mewn risg o ddiweithdra hirdymor. Mae Coleg Penybont yn falch i gymryd rhan yn y cynllun ac mae eisoes wedi creu nifer fawr o swyddi gwag ers lansio’r cynllun ym mis Medi 2020.
Cyfleoedd yw hyb gyrfaoedd y Coleg a bu’n ganolog wrth ysgogi dros 200 o swyddi Kickstart ers dechrau’r cynllun, gan roi cefnogaeth hanfodol ar gyfer busnesau lleol mewn cyfnod na welwyd ei debyg. Bydd cwmnïau a all gynnig lleoliadau 6-mis ar gyfer pobl ifanc yn derbyn cyllid gan y Llywodraeth a gallant wneud cais am £1,500 ychwanegol tuag at gostau hyfforddiant a chostau eraill.
Mae’r Coleg wedi cefnogi nifer o fusnesau lleol, yn cynnwys Peter Marazena, perchennog Chef Marezana Foods ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Canmolodd Peter y gefnogaeth a gafodd gan Goleg Penybont.
“Mae cynllun Kickstart wedi bod yn dull defnyddiol i sicrhau gweithwyr newydd brwdfrydig. Mae’r rhain yn bobl sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd ac yn awyddus i wneud argraff o fewn y gweithlu.
Rwy’n ddiolchgar i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr am fedru rhoi gwybodaeth a hyfforddiant lle bynnag sydd angen a rhoi eglurdeb ar sut mae’r cynllun yn gweithio.”
Peter Marezana
Mae Cyfleoedd yn cefnogi pob cyflogwr a gweithiwr drwy gydol cyfnod 6 mis y lleoliad. Gall y tîm gyflwyno cais ar-lein ar ran sefydliad i’r Adran Gwaith a Phensiynau a chynghori ar gyfleoedd hyfforddiant addas i’r rôl y dymunant recriwtio iddi, tra hefyd yn rhoi’r cymorth cyflogadwyedd sydd ei angen ar gyfer pob ymgeisydd.
Dywedodd Tyler Garnham, ymgeisydd Kickstart llwyddiannus mewn swydd weinyddol yn Seren Support Services:
“Y peth mwyaf deniadol am wneud cais am swydd Kickstart oedd y ffaith ei fod o fudd i chi fel person oherwydd ei fod yn creu cyfle i chi ddysgu a hyfforddi mewn amgylchedd busnes. Mae Coleg Pen-y-bont wedi fy helpu drwy gydol y broses. Buont yn fy ffonio ac yn anfon negeseuon e-bost ataf yn rheolaidd i ofyn am fy adborth a gofyn sut mae popeth yn mynd, ac rwyf wedi hoffi hynny yn fawr.”
Tyler Garnham
Bydd Cyfleoedd yn parhau i helpu darparu’r cyfleoedd hyn ar gyfer pobl ifanc a chyflogwyr o bob diwydiant ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol. I ganfod mwy, ewch i adran .