Mae’n bleser gennym gyhoeddi penodiadau Emma Adamson yn Gadeirydd newydd a Joanne (Jo) Oak yn Is-gadeirydd newydd ein Corff Llywodraethu.
Mae Emma yn gefnogwr brwd o Goleg Penybont, ac mae wedi gwasanaethu ar y Corff Llywodraethu ers mis Hydref 2021. Gan ddod â chyfoeth o brofiadau amrywiol a gwerthfawr, mae Emma ar hyn o bryd yn rhan o uwch dîm arwain Prifysgol De Cymru, fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgu, a hefyd yn gweithio mewn rôl ymgynghorol gyda’r Llyfrgell Brydeinig ac fel Cydymaith Arwain gyda Advance HE.
Bydd Emma yn ymgymryd â’r rôl hon yn dilyn penodiad Jeff Greenidge, Cadeirydd ymadawol Corff Llywodraethu’r Coleg, i Fwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) newydd-enedig yng Nghymru.
Mae Jo Oak, sydd hefyd ar hyn o bryd yn gwasanaethu ar Gorff Llywodraethu’r Coleg ac sy’n Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau, yn Brif Swyddog Gweithredol Grŵp i Gymdeithas Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae Jo wedi ymrwymo i gefnogi a galluogi adfywio cymunedol a Phen-y-bont well, gyda phrofiad helaeth ar nifer o bwyllgorau Llywodraeth Cymru, grwpiau seneddol a byrddau cynghori ar draws y sectorau tai, iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae Coleg Penybont yn arddangos yr effaith gadarnhaol y mae addysg yn ei chael ar fywydau myfyrwyr, cymunedau, cyflogwyr a’r gymdeithas ehangach. Mae’n fraint wirioneddol cael bod yn Gadeirydd newydd, a gyda’m cyd-lywodraethwyr, edrychaf ymlaen at weithio gyda Vivienne a’i huwch dîm arwain, a gyda Jo Oak yn Is-gadeirydd, i sicrhau llwyddiant parhaus y Coleg a gwireddu ei uchelgeisiau o ran llwyddiant y dysgwyr a’r gymuned. Hoffwn hefyd ddiolch yn bersonol i Jeff am ei gefnogaeth helaeth yn ystod y cyfnod hwn, a dymunaf bob llwyddiant iddo yn ei rôl newydd.”
Emma Adamson, Cadeirydd newydd Corff Llywodraethol Coleg Penybont
“Mae wedi bod yn wych gweithio ochr yn ochr ag Emma a Jo, sydd wedi bod yn rhan o Gorff Llywodraethu’r Coleg dros y blynyddoedd diwethaf. Fel eiriolwyr eiddgar dros y Coleg a phwysigrwydd dysgu gydol oes, mae Emma a Jo bob amser wedi sicrhau bod buddiannau ein myfyrwyr, ein staff a’n cymunedau wrth galon pob penderfyniad. Rwyf wrth fy modd y byddant yn parhau i ddarparu cymorth, her ac atebolrwydd i’r uwch dîm arwain wrth i ni edrych ymlaen at ein canmlwyddiant sydd i ddod ac at ddyfodol cyffrous.”
Vivienne Buckley, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont