Ar ôl agor ei drysau ym mis Tachwedd 2022, caeodd Siop Godi Coleg Penybont ar 23 Mehefin yn dilyn rhediad llwyddiannus.
Drwy gydol ei wyth mis o fodolaeth, bu’r Siop yn hyb i’r Coleg yng nghalon Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddarparu man hamddenol ac anffurfiol i bobl gael cyngor gyrfaol, mynychu sesiynau blas, a dysgu sgiliau newydd.
Er na fydd y Coleg bellach yn cadw gofod parhaol yng Nghanolfan Siopa’r Rhiw, bydd ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn dychwelyd trwy gydol misoedd yr haf. Byddant wrth law i ddarparu cyngor am yrfaoedd a chyrsiau, gwybodaeth am y broses ymrestru, ac i awgrymu opsiynau ar gyfer camau nesaf.
Ydych chi am gael sgwrs am eich dyfodol? Edrychwch amdanom yng Nghanolfan Siopa’r Rhiw ar y dyddiadau canlynol:
Bydd staff ar gael ar y dyddiau hyn i sgwrsio am gyllid myfyrwyr, cyngor gyrfaoedd a bywyd yn y coleg. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ar hello@bridgend.ac.uk
Mae’r Siop Godi wedi cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithdai dros yr wyth mis diwethaf, gan ganiatáu i bobl wireddu eu dyheadau gyrfaol a dysgu mwy am gyrsiau yn y Coleg.
Dyma rai o’n sesiynau mwyaf cofiadwy o’n cyfnod yn y Rhiw:
Goleuadau Nadolig Pen-y-bont Ar 26 Tachwedd fe ddathlon ni gynnau goleuadau Nadolig canol dref Pen-y-bont yn y Siop Godi, lle buom yn mwynhau cerddoriaeth fyw, gweithgareddau a phaentio wynebau. Fe wnaethon ni hyd yn oed groesawu Maer Pen-y-bont!
Caffi Atgyweirio Gan ddechrau ar 25 Ionawr fe gynhalion ni ein Caffi Atgyweirio ein hunain, a oedd yn rhedeg bob pythefnos. Roedd y Caffi’n annog trigolion lleol i ddod ag eitemau bach o’r cartref i’w trwsio, i helpu eraill gyda’u prosiectau eu hunain, ac i wneud cysylltiadau newydd. Roedd hefyd yn gyfle gwych i’n myfyrwyr TG presennol, gan roi siawns iddynt roi eu sgiliau ar waith.
Digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y campws yng nghanol y dref Ym mis Mawrth, fe wnaethom gynnal digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd i amlinellu cynlluniau ar gyfer datblygu ein campws newydd. Cyflwynodd aelodau’r Uwch Dîm Arwain, ynghyd â Rio Architects, drosolwg o uchelgeisiau, cysyniadau dylunio a nodau cynaliadwyedd y Coleg ar gyfer ein campws newydd yng nghanol y dref.
Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd? Ewch i’n gwefan i ddarllen am ddatblygiad y campws.
Gweithdy Iaith Arwyddion Prydain Fe gynhaliom ein gweithdy Iaith Arwyddion Prydain cyntaf ym mis Ebrill, lle buom yn dysgu hanfodion yr iaith. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol i bawb ac i helpu pobl i gyflawni eu llawn botensial.
Gwelwch ein cyrsiau Iaith Arwyddion Prydain.
Bore Coffi Cymraeg Yn unol â’n hangerdd dros hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru, fe wnaethom gynnal bore coffi Cymraeg ar 2 Mai, yn agored i bawb oedd am ymarfer eu sgiliau Cymraeg, mwynhau paned a chwrdd â phobl o’r un meddwl.
Mae ein darpariaeth Gymraeg yn destun balchder i ni. Cliciwch yma i ddysgu mwy am ein cymorth i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.
































































