Ddydd Mercher 13 Tachwedd, fe gymerodd y Coleg ran mewn Diwrnod Rhyngwladol Sylwi Cadarnhaol, menter a ddatblygwyd gan yr arbenigwr ymddygiad ac awdur, Paul Dix.
Rhoddodd y diwrnod, a oedd yn cyd-daro â Diwrnod Caredigrwydd y Byd, gyfle i fyfyrwyr a staff i sylwi ar a chydnabod eu cyfoedion a’u cydweithwyr trwy amrywiaeth o weithgareddau syml a gynlluniwyd i gael effaith gadarnhaol. Ymgysylltwyd â’r digwyddiad ar draws y campysau, gyda gweithgareddau yn cynnwys ‘y goeden bositifrwydd’, ‘edau o ddiolchgarwch’ a ‘phasio’r positifrwydd’ – fersiwn unigryw o’r gêm ‘pasio’r parsel’ draddodiadol!
‘Mae ein gwerthoedd sefydliadol yn hanfodol i greu diwylliant lle mae ein myfyrwyr, ein staff a’r gymuned ehangach yn teimlo ymdeimlad o barch, tegwch a pherthyn. Trwy weithredoedd syml o sylwi, gwyddom fod y derbynnydd a’r person sy’n sylwi yn cael teimlad o ddiolchgarwch a hapusrwydd. Mae wedi bod yn wych gweld pobl yn atgyfnerthu pwysigrwydd caredigrwydd dynol yn gadarnhaol ar draws ein campysau heddiw.’
Joe Baldwin, Dirprwy Bennaeth – Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Sylwi Cadarnhaol yn syml, yn ymarferol ac yn hynod effeithiol. Mae effaith sylwi cadarnhaol yn ddi-oed ac yn hiroediog. Mae’n helpu i feithrin hunan-barch a hyder myfyrwyr ac yn newid y diwylliant yn ein cymuned ddysgu fel mai’r ymddygiad cywir yw’r ymddygiad a anelir amdano bob amser.
‘Does dim gwadu bod bywyd wedi dod yn fwy heriol i lawer o bobl yn ddiweddar ac mae’n hawdd inni ddechrau meddwl am yr holl bethau negyddol. Rhywbeth ar gyfer pob dydd yw sylwi cadarnhaol, ond rwyf wedi fy syfrdanu gan y cannoedd o ysgolion a cholegau sydd wedi defnyddio’r Diwrnod Sylwi Cadarnhaol i ailosod eu ffordd o feddwl ac atgoffa eu cymunedau o’r hyn sydd gennym i fod yn falch ohono ac yn ddiolchgar amdano’.
Paul Dix, Arbenigwr Ymddygiad a Sefydlydd ‘When the Adults Change’





































































