Safon Uwch
Datglowch Eich Dyfodol: Safonau Uwch yng Ngholeg Penybont
Lansiwch eich taith academaidd gyda Safonau Uwch yng Ngholeg Penybont. Rydym yn cynnig ystod amrywiol o bynciau, a addysgir gan diwtoriaid profiadol, mewn amgylchedd dysgu cefnogol a bywiog. Cyflawnwch eich potensial llawn ac ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch i fynd i’r brifysgol neu’r llwybr gyrfa o’ch dewis.
Pam Dewis Coleg Penybont?
- Ystod Eang o Bynciau: Ystod o gyfuniadau Safon Uwch yn y Gwyddorau Cymdeithasol.
- Tiwtoriaid Arbenigol: Manteisio ar athrawon angerddol sy’n ymroddedig i’ch llwyddiant.
- Cyfleusterau Modern: Dysgu mewn ystafelloedd dosbarth â’r cyfarpar angenrheidiol a chael mynediad at adnoddau o’r radd flaenaf.
- Amgylchedd Cefnogol: Ffynnu mewn cymuned gyfeillgar a chynhwysol gydag arweiniad personol.
Cyfleoedd Dilyniant: Ennill y cymwysterau a’r sgiliau i fynd i’r prifysgolion gorau a gyrfaoedd cyffrous.
Bydd astudio Safonau Uwch yng Ngholeg Penybont yn eich galluogi i elwa ar gefnogaeth ardderchog mewn amgylchedd dysgu aeddfed gyda thiwtoriaid hyddysg sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu rhagorol yn ein Hacademi STEAM ym Mhencoed a chyfleoedd gwych i fynd ymlaen i’r brifysgol. Rydym yn falch iawn o gyflawniadau uchel cyson ein myfyrwyr Safon Uwch, gyda chyfradd lwyddo o 96% a 22% o’n dysgwyr Cydweithrediad yn ennill gradd A* neu A yn 2024.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig detholiad o gymwysterau Safon Uwch sy’n rhoi hyblygrwydd gwych i’n myfyrwyr. I astudio’r rhan fwyaf o Safonau Uwch yng Ngholeg Penybont, mae angen o leiaf 5 TGAU gradd A*- C arnoch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Gall fod rhai eithriadau. Edrychwch ar bob tudalen cwrs am ofynion mynediad penodol.
Opsiwn llawn amswer i astudio heb y cydweithrediad
Os nad ydych yn fyfyriwr cydweithrediad ysgol, dewiswch dri chwrs Coleg Penybont gwahanol o opsiwn 1, 2 a 3. Yn ogystal â’ch cymwysterau Safon Uwch, byddwch hefyd yn astudio cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.
| Opsiwn 1 | Opsiwn 2 | Opsiwn 3 |
|---|---|---|
| Safon Uwch y Gyfraith | Tystysgrif Gymhwysol Lefel 3 mewn Troseddeg | Safon Uwch y Gyfraith |
| Safon Uwch Seicoleg | Safon Uwch Cymdeithaseg | Tystysgrif Gymhwysol Lefel 3 mewn Troseddeg |
| Safon Uwch Cymdeithaseg | ||
| Safon Uwch Seicoleg |














