Coleg Penybont yn cefnogi dathliadau Nadoligaidd Pen-y-bont ar Ogwr
11/11/2026Mae Coleg Penybont yn falch iawn o fod yn gefnogwr allweddol i ddigwyddiad blynyddol Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, sef troi goleuadau’r Nadolig ymlaen. Mae’r digwyddiad yn helpu i ddod â’r gymuned leol ynghyd i ddathlu dechrau’r tymor Nadoligaidd.
Cynhelir y digwyddiad yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn 28 Tachwedd. Bydd y digwyddiad yn dod â thrigolion, teuluoedd a busnesau lleol ynghyd i fwynhau prynhawn llawn o adloniant a hwyl yr ŵyl.
“Mae bod yn rhan o’n cymuned leol yn hynod bwysig i ni. Rydyn ni’n falch o gefnogi digwyddiadau sy’n dod â phobl ynghyd, yn dathlu popeth sy’n gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn lle arbennig, ac yn helpu i greu ymdeimlad gwirioneddol o berthyn. Mae’r digwyddiad troi goleuadau’r Nadolig ymlaen yn gyfle gwych i ddathlu ein tref, ac rydym wrth ein bodd o fod yn rhan o’r dathliadau eleni.”
Viv Buckley, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont
Bydd y Coleg yn cymryd rhan yn y dathliadau ar y diwrnod, gyda gweithgareddau rhyngweithiol i ymwelwyr eu mwynhau. Bydd ein myfyrwyr Celfyddydau Perfformio hefyd yn camu i’r llwyfan, fel y gwnân nhw bob blwyddyn, i arddangos eu doniau. Mae’n gyfle gwych i ddod â thrigolion, teuluoedd a busnesau lleol ynghyd i ddathlu dechrau’r tymor Nadoligaidd.
Gan edrych tua’r dyfodol, mae’r symudiad i’n campws newydd yng nghanol y dref yn nodi pennod gyffrous yn hanes Coleg Penybont. Wrth i’r Coleg ddod yn rhan o ganol y dref, bydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau i’r gymuned ehangach eu mwynhau, gan gynnwys theatr ar gyfer perfformiadau a digwyddiadau, salon gwallt a harddwch, siop goffi, a mannau y gall grwpiau a busnesau lleol eu llogi. Yn ogystal â chyfleoedd dysgu oedolion yn y gymuned, bydd y campws yn creu mwy o ffyrdd i bobl gysylltu â’r Coleg a defnyddio ei gyfleusterau.
Mae’r fenter hon yn adlewyrchu uchelgais ehangach y Coleg i greu amgylchedd croesawgar lle mae pobl yn teimlo eu bod nhw’n perthyn, wrth gryfhau ei rôl fel canolfan allweddol i’r gymuned leol. Trwy ei Gynllun Strategol, mae’r Coleg wedi ymrwymo i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r bobl ac i’r lleoedd y mae’n eu gwasanaethu, gan gefnogi cyfleoedd i ddysgu a chysylltu, a chreu dyfodol ffyniannus a chynaliadwy i Ben-y-bont ar Ogwr.
Wedi’i drefnu gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r digwyddiad i droi goleuadau’r Nadolig ymlaen hefyd yn cael ei gefnogi gan Ganolfan Siopa ‘Y Rhiw’, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Busnesau Pen-y-bont ar Ogwr yn Erbyn Trosedd.



















