Bydd ein cyrsiau yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau, gwybodaeth a disgyblaeth hanfodol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai neu i ddilyn cymhwyster lefel uwch yn y maes hwn.
Mae ein cyrsiau yn cynnig llawer o gyfleoedd, o weithgareddau awyr agored dŵr a thir, profi ffitrwydd, adeiladu tîm yn ogystal â rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol i fod yn sylfaen i’ch astudiaethau. Mae gennym dîm angerddol sydd â phrofiad ymarferol o weithio yn y maes ac sy’n ymroddedig i’ch cefnogi i gyrraedd eich nod. Mae ein tiwtoriaid yn deall gofynion gyrfaoedd yn y diwydiannau hyn, gan felly sicrhau fod myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau a’r profiadau priodol i fod yn llwyddiannus.