Roeddem wrth ein bodd yn lansio’r Siop yn swyddogol yn ddiweddar – ein siop ddillad ail-law newydd ar y campws, lle mae cynaliadwyedd yn cwrdd â steil. Agorwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar Gampws Pen-y-bont ar Ogwr, gan Chris Elmore AS gydag aelodau o sefydliadau lleol, staff a myfyrwyr yn bresennol.
Mae’r fenter, sy’n cael ei rhedeg gan Swyddog Entrepreneuriaeth y Coleg, Ruth Rowe, yn galluogi myfyrwyr a staff i siopa’n gynaliadwy am bris fforddiadwy. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr, yn ogystal â chyfleoedd dysgu newydd i’r rheiny sy’n astudio cyrsiau Ffasiwn a Gwisgoedd, Celf a Dylunio ac ESOL yn y Coleg.
Aeth myfyrwyr o gwrs Diploma Lefel 3 mewn Ffasiwn a Gwisg y Coleg i’r brigdrawst yn gwisgo gwisgoedd a grëwyd gan eu cyd-fyfyrwyr, gan arddangos cydweithredu ac arloesi mewn amgylchedd creadigol a chynaliadwy.
Fel rhan o’r digwyddiad hefyd roedd arddangosfa fach yn cynnwys dillad o Working Wardrobe, elusen sy’n ymdrechu i fynd i’r afael â thlodi dillad i weithwyr a cheiswyr gwaith wrth hyrwyddo cynaliadwyedd trwy leihau gwastraff tirlenwi diangen. Fe ymunodd Rachel Rodrigues, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Working Wardrobe, ynghyd ag un o sefydlwyr yr elusen, ar y diwrnod i siarad ag ymwelwyr am sut gall myfyrwyr gael mynediad at ddillad proffesiynol trwy’r Siop, gan eu grymuso nhw i gamu ymlaen gyda hyder i’r byd gwaith.
“Mae’r Siop yn ffordd wych o ysgogi dysgwyr i drafod ac ystyried sut mae dillad ail-law yn well i’r blaned na ffasiwn gyflym, ac y fwy fforddiadwy. Mae hefyd yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr sy’n rhedeg y siop i ddatblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a sgiliau manwerthu gwerthfawr eraill a fydd yn ehangu eu rhagolygon gyrfaol.”
Ruth Rowe, Swyddog Entrepreneuriaeth


































































