Dyfarnwyd cymrodoriaethau i Adrian Hurley a Calvin Eden

Cyflwynwyd Cymrodoriaethau Coleg Penybont 2026 yn ystod ein Seremonïau Graddio Addysg Uwch a gynhaliwyd ar ein Campws Pencoed.

Mae tri academydd mewn gwisgoedd graddio yn sefyll yn yr awyr agored, a'r dyn yn y canol yn dal ffrâm tystysgrif.

Anrhydeddwyd Adrian Hurley yn ystod seremoni gyntaf y dydd, i gydnabod ei wasanaeth i’r diwydiant adeiladwaith ac i hyfforddiant proffesiynol.

Mae Adrian wedi ymroi mwy na phedwar degawd i’r diwydiant adeiladwaith, gan feithrin gyrfa nodedig ym maes peirianneg gwasanaethau adeiladu a hyfforddiant proffesiynol. Mae Adrian wedi bod yn Rheolwr-gyfarwyddwr F P Hurley ers 2017, ac mae’n parhau i arwain y cwmni wrth fuddsoddi yn ei bobl a chyflawni prosiectau adeiladu cymhleth ledled y rhanbarth. Mae Adrian wedi gwneud cyfraniad sylweddol at y proffesiwn peirianneg adeiladu ehangach trwy ei waith gyda’r Gymdeithas Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu (CGPA), gwasanaethodd fel Llywydd CGPA yn 2024, ac mae’n parhau i wasanaethu ar y Bwrdd ac ar Bwyllgor Llywio Cymru CGPA. Mae Adrian hefyd wedi helpu i hyrwyddo dyfodol mwy cynhwysol i’r sector, gan annog y genhedlaeth nesaf o fenywod i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.

Yn ail seremoni’r dydd, anrhydeddwyd Calvin Eden i gydnabod ei waith yn eirioli dros bobl ifanc ac yn datblygu cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Calvin yn entrepreneur, siaradwr ac eiriolwr dros bobl ifanc sydd wedi ennill gwobrau. Fe yw cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr Loud Speaker, sefydliad sy’n ymroddedig i rymuso pobl ifanc trwy feithrin hyder, datblygu sgiliau cyfathrebu, gwydnwch a datblygiad personol. Ers sefydlu Loud Speaker, mae Calvin a’i dîm wedi gweithio gyda mwy na 300,000 o bobl ifanc ledled y DU, gan ddarparu profiadau mewn ysgolion, colegau a chymunedau.

Mae gwaith Calvin wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol; cafodd ei enwi’n Entrepreneur Pwrpas y Flwyddyn yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Prydain Fawr, ac enillodd Wobr Gwneud Gwahaniaeth y BBC. Trwy ei waith eirioli, ei arweinyddiaeth a’i ymrwymiad at ddatblygu cenedlaethau’r dyfodol, mae Calvin yn parhau i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’w llais, gweld eu potensial, a magu’r hyder i ddefnyddio’r ddau.

Mae tri academydd mewn gwisgoedd graddio yn sefyll yn yr awyr agored, a'r dyn yn y canol yn dal tystysgrif mewn ffrâm.

Cyflwynodd Tomos Owen, Cadeirydd Corff Llywodraethu Coleg Penybont, y Cymrodoriaethau i Adrian a Calvin.

Roedd yn bleser dathlu cyflawniadau Adrian a Calvin yn ein seremonïau graddio. Mae cyfraniad Adrian at y diwydiant adeiladwaith a’i ymrwymiad at ddatblygu gweithwyr proffesiynol medrus, ynghyd â gwaith Calvin i helpu pobl ifanc i feithrin hyder a gweld eu potensial, yn dangos gwerth rhannu gwybodaeth a buddsoddi mewn eraill. Rydyn ni’n falch o gydnabod y gwahaniaeth maen nhw’n parhau i’w wneud, a gobeithiwn y bydd ein graddedigion yn cael eu hysbrydoli gan deithiau’r cymrodyr wrth iddynt ddechrau pennod nesaf eu gyrfaoedd eu hunain.

Viv Buckley, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont

Mae ein Seremoni Raddio Addysg Uwch yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn, gan ddathlu cyflawniadau ein myfyrwyr dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Roedd yn bleser croesawu Dr Louise Bright, Dirprwy Is-ganghellor dros Fenter, Ymgysylltu a Phartneriaethau ym Mhrifysgol De Cymru, i gydnabod y rhai oedd yn graddio. Yn ogystal â staff y Coleg, roedd Llywodraethwyr, Cymrodyr Coleg Penybont a Chris Elmore AS yn bresennol yn y digwyddiad. Hefyd mynychodd y Cynghorydd Kyle Duggan, Dirprwy Faer Cyngor Tref Maesteg, a’r Cynghorydd John Butcher, Maer Cyngor Tref Pencoed, ynghyd â’u gwesteion, i ddathlu cyflawniadau’r myfyrwyr.

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Law
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
SSA 5.2 - Building and Construction
SSA 6.1 - Digital Technology
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch