Mae ein hamrywiaeth o gyrsiau yn cynnig cyfle gwych i chi ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd a byw’n annibynnol mewn amgylchedd meithringar a chefnogol. Mae ein dull sy’n canolbwyntio ar y person yn sicrhau bod eich anghenion unigol yn cael eu paru’n ofalus â lefelau astudio priodol.
Mae Coleg Penybont yn darparu cynnig pontio rhagorol i fyfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym eisiau sicrhau bod eich cyfnod pontio i’r Coleg yn brofiad cadarnhaol trwy eich cefnogi bob cam o’r ffordd. Eich cam cyntaf ar y daith fydd cwrdd â’n Harweinydd Pontio ac Adolygu ADY. Bydd yr arweinydd yn mynychu eich adolygiad CDU. Wedyn byddwch yn cael eich gwahodd i amrywiaeth o ymweliadau pontio cyn dechrau eich cwrs.
Os hoffech gysylltu â ni am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: kjones@bridgend.ac.uk neu cpearce@bridgend.ac.uk
































































