Ysgol Haf Coleg Penybont
Gwersyll Rygbi Haf Coleg Penybont
Rhowch y profiad rygbi gorau i’ch athletwr ifanc yr haf hwn drwy Wersyll Rygbi Haf Coleg Penybont. Wedi’i chynllunio i bobl ifanc rhwng 13 ac 16 oed, mae’r wythnos hon sy’n llawn gweithgareddau yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, meithrin gwaith tîm, a magu hyder ar y cae ac oddi arno.
P’un a ydynt eisiau mireinio eu sgiliau neu roi cynnig ar rywbeth newydd, mae ein hacademi yn darparu amgylchedd cefnogol ac ysbrydoledig i’w helpu i gyrraedd eu potensial llawn.
Croeso i chwaraewyr o bob lefel.
Manylion allweddol
- Dyddiadau: Dydd Llun 20 Gorffennaf, dydd Mercher 22 Gorffennaf a dydd Gwener 24 Gorffennaf
- Amser: 10:00yb i 3:00yp
- Lleoliad: Coleg Penybont, campws Pencoed
- Grŵp oedran: 13 i 16 oed
- Cost: £34.50 y dydd (dim ond 30 lle ar gael)
Mae opsiynau archebu hyblyg ar gael, sy’n eich galluogi i ddewis diwrnodau unigol neu nifer o ddiwrnodau.
Beth i’w ddisgwyl drwy gydol yr wythnos
Mae ein rhaglen gynhwysfawr yn cydbwyso hyfforddiant chwaraeon o ansawdd uchel â sgiliau bywyd hanfodol. Dros y pum niwrnod, bydd cyfranogwyr yn cael profiad o’r canlynol:
- Datblygu sgiliau: Driliau cylchdroi deniadol a gemau rygbi i hybu perfformiad.
- Dadansoddiad modern: Sesiynau i adolygu a myfyrio ar berfformiad, gan ddefnyddio recordiadau drôn.
- Iechyd a maetheg: Sesiynau coginio ymarferol, a chyngor ar fwyta’n iach, wedi’u noddi gan Castell Howell.
- Sgiliau diogelwch: Hyfforddiant cymorth cyntaf hanfodol, yn benodol i rygbi.
- Ysbrydolaeth: Sesiynau mewnweledol gyda siaradwr gwadd cyffrous.
- Twf personol: Llawer o hwyl, meithrin tîm, a’r cyfle i wneud ffrindiau newydd.
Bwyd a lluniaeth
Mi fydd lluniaeth am ddim i gadw chwaraewyr wedi’u hydradu ac yn llawn egni drwy gydol y dydd.
Gofynnwn i gyfranogwyr ddod â’u pecynnau bwyd eu hunain mewn bag wedi’i inswleiddio i sicrhau bod bwyd yn aros yn ffres.
Mae’n ofynnol i bob cyfranogwr ddod â photel ddŵr y gallant ei hail-lenwi gan ddefnyddio ein peiriannau dŵr ar y campws drwy gydol y dydd.
Sicrhewch eich lle heddiw
Gan mai dim ond 30 lle sydd ar gael, argymhellir yn gryf eich bod yn cofrestru’ch lle’n gynnar er mwyn osgoi siom. Rhowch haf cofiadwy i’ch plentyn a’i helpu i feithrin sgiliau ar gyfer y dyfodol.
Gwersyll Haf Cadwraeth a Gofal Anifeiliaid
Darganfyddwch beth sydd ei angen i ddiogelu ein byd naturiol yng Ngwersyll Gofal Anifeiliaid a Cadwraeth Coleg Penybont. Wedi’i chynllunio’n benodol i bobl ifanc rhwng 13 ac 16 oed, mae’r academi ymgolli hon yn cynnig profiad ymarferol mewn cadwraeth bywyd gwyllt, lles anifeiliaid, a sgiliau goroesi yn yr awyr agored.
Wedi’i leoli ar ein campws arbenigol, mae hwn yn gyfle delfrydol i bobl ifanc sy’n angerddol am fyd natur, sy’n ystyried gyrfa’n gweithio gydag anifeiliaid yn y dyfodol, neu sydd eisiau datblygu sgiliau awyr agored ymarferol.
Manylion allweddol
- Dyddiadau:
- Wythnos 1: Dydd Iau 30 a Dydd Gwener 31 Gorffennaf
- Wythnos 2: Dydd Iau 6 a Dydd Gwener 7
- Wythnos 3: Dydd Iau 13 a Dydd Gwener 14 Awst
- Amser: 10:00yb i 3:00yp bob dydd
- Lleoliad: Coleg Penybont, campws Pencoed
- Grŵp oedran: 13 i 16 oed
- Cost: £34.50 y dydd (dim ond 12 lle ar gael)
Cynnig arbennig: Archebwch am y 3 wythnos a chewch ostyngiad o 20% ar gyfanswm eich archeb.
Mae opsiynau archebu hyblyg ar gael, sy’n eich galluogi i ddewis diwrnodau unigol neu nifer o ddiwrnodau.
Beth i’w ddisgwyl drwy gydol yr wythnos
Mae ein rhaglen yn cydbwyso ecoleg ymarferol gyda chrefft maes hanfodol. Drwy gydol yr academi, bydd cyfranogwyr yn elwa o’r canlynol:
- Cipolwg ar y diwydiant: Teithiau o amgylch y campws i weld ein cyfleusterau arbenigol a chwrdd â’n hanifeiliaid.
- Lles anifeiliaid: Gweithdai ymarferol a fydd yn canolbwyntio ar berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes, a sgiliau hwsmonaeth anifeiliaid.
- Cadwraeth maes: Gweithgareddau rheoli cynefinoedd ymarferol, olrhain bioamrywiaeth, a chadwraeth bywyd gwyllt Prydain.
- Byw yn y gwyllt a goroesi: Sesiynau gwaith tîm awyr agored ymarferol, gan gynnwys adeiladu lloches, a pheirianneg gyntefig.
- Ymateb ar frys: Sgiliau cymorth cyntaf awyr agored hanfodol, wedi’u cynllunio ar gyfer amgylcheddau gwledig.
- Gweithgareddau meithrin tîm: Gemau datrys problemau heriol, cwisiau rhyngweithiol, a phrosiectau dylunio cydweithredol sy’n seiliedig ar natur.
Bwyd a lluniaeth
Gofynnwn i gyfranogwyr ddod âu pecynnau bwyd eu hunain mewn bag wedi’i inswleiddio i sicrhau bod bwyd yn aros yn ffres.
Mae’n ofynnol i bob cyfranogwr ddod â photel ddŵr y gallant ei hail-lenwi gan ddefnyddio ein peiriannau dŵr ar y campws drwy gydol y dydd.
Gofynion offer a diogelwch
Gan fod yr academi hon yn cynnwys gwaith maes a chadwraeth go iawn, bydd cyfranogwyr yn treulio amser sylweddol yn yr awyr agored. Oherwydd dibenion iechyd a diogelwch, rhaid i bawb sy’n mynychu ddilyn ein gofynion dillad:
- Dillad: Dillad gwydn sy’n addas ar gyfer tywydd gwlyb sy’n gorchuddio’r breichiau a’r coesau’n llwyr i amddiffyn rhag pryfed ac isdyfiant.
- Esgidiau: Mae esgidiau cadarn neu esgidiau glaw yn orfodol. Am resymau diogelwch, ni chaniateir esgidiau cynfas, esgidiau rhedeg na sandalau ar y safle.
Sicrhewch le
Gan mai dim ond 12 lle sydd ar gael y dydd i gyfranogwyr, mae sesiynau’n llenwi’n gyflym. Sicrhewch eich lle heddiw i helpu’ch plentyn i feithrin sgiliau gwerthfawr, magu hyder a chysylltu â chyfoedion o’r un anian yr haf hwn.



















