Cynigiwn amrywiaeth o gyrsiau Safon Uwch a chymwysterau cyfatebol sy’n galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i’w cam nesaf, yn cynnwys gwaith, prentisiaethau ac addysg bellach.
Bydd astudio Safonau Uwch yng Ngholeg Penybont yn eich galluogi i fanteisio o gefnogaeth ardderchog mewn amgylchedd dysgu aeddfed. Mae ein tiwtoriaid arbenigol yn arbenigwyr yn eu meysydd pwnc, ac rydym hefyd yn cynnig amgylchedd dysgu rhagorol yn ein Hacademi STEAM ym Mhencoed a chyfleoedd gwych ar gyfer prifysgol. Rydym yn falch iawn o lwyddiannau cyson uchel ein myfyrwyr Safon Uwch. Yn 2022, cafodd 84% o’n dysgwyr raddau A* – C a chafodd 39% o’n dysgwyr radd A* neu A.
Mae ein hopsiynau astudio gyda’r nos yn cynnig llawer o hyblygrwydd i’n myfyrwyr, a gaiff eu haddysgu yn Academi STEAM, Campws Pencoed:
Rydym hefyd yn cynnig y cyrsiau canlynol yn ystod y dydd. Byddant yn cael eu haddysgu ar draws yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Iau, 1yp-3yp:
Er mwyn astudio Safonau Uwch mae angen o leiaf 6 TGAU A*-C gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.