Mae Ruth Rowe, Swyddog Entrepreneuriaeth yng Ngholeg Penybont, wedi cael ei hethol i fwrdd cyfarwyddwyr Enterprise Educators UK (EEUK). Cefnogwyd enwebiad Ruth gan broffesiynolion Addysg Menter o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, sy’n dyst i’w henw da a’i chyflawniadau yn y sector.

Bydd Ruth, sy’n gyfrifol am lunio a chyflwyno’r strategaeth entrepreneuriaeth yng Ngholeg Penybont, yn dod â chyfoeth o brofiad yn y meysydd cymorth busnes ac addysg menter ac entrepreneuriaeth i’w rôl newydd, yn ogystal ag egni, brwdfrydedd a syniadau newydd. Fel yr unig gyfarwyddwr i gael ei dewis o sefydliad Addysg Bellach (AB), mae Ruth yn frwd dros gynyddu cyfranogiad colegau AB eraill mewn digwyddiadau EEUK.
Mae swydd y cyfarwyddwr yn un dair blynedd a bydd Ruth yn goruchwylio o leiaf un maes EEUK penodol a fydd yn cael ei gytuno’n flynyddol. Ochr yn ochr â mynychu cyfarfodydd y bwrdd, fe fydd yn eistedd ar y pwyllgor Ymarfer a Datblygiad Proffesiynol yn ogystal â helpu i bennu nodau ac amcanion strategol y sefydliad wrth symud ymlaen.
Mae Ruth wedi bod yn angerddol ers tro am helpu myfyrwyr i wireddu eu llawn botensial drwy addysg menter ac entrepreneuriaeth. Ers gweithio i’r Coleg ers 2010, mae Ruth wedi cefnogi myfyrwyr di-rif i ddatblygu eu strategaethau busnes a’u setiau sgiliau er mwyn symud eu syniadau busnes yn eu blaen.
Ochr yn ochr â’i gwaith yn y Coleg, mae Ruth wedi chwarae rhan weithredol wrth gefnogi’r sector cyfan. Mae ei chyfraniad yn cynnwys cadeirio trac yng Nghynhadledd Ryngwladol yr Addysgwyr Menter a bod yn feirniad ar gyfer y Gwobrau Addysgwyr Menter Cenedlaethol blynyddol. Fel Cymrawd EEUK, mae Ruth hefyd yn cefnogi addysgwyr menter sy’n gwneud cais am gymrodoriaeth i ennill cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau.
“Rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael fy ethol i’r bwrdd gan gydweithwyr addysg menter ledled y DU. Mae gennyf EEUK i ddiolch am fy nghymrodoriaethau a’m MA mewn Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth, sydd oll wedi fy helpu’n aruthrol yn fy rôl. Rwy’n gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda’r cyfarwyddwyr eraill i helpu i nodi cyfleoedd i gefnogi addysgwyr ymhellach ar draws y DU a thu hwnt.”
Ruth Rowe, Swyddog Entrepreneuriaeth yng Ngholeg Penybont a Chyfarwyddwr EEUK
Mae EEUK yn sefydliad i aelodau a lywodraethir gan fwrdd y cyfarwyddwyr. Ei nod allweddol yw galluogi rhagoriaeth mewn Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth trwy gysylltu ac ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol y sector ar draws y byd. Drwy gefnogi pob aelod cyswllt ac aelod-sefydliad i arloesi, mae’n helpu i gynyddu maint, cwmpas ac effeithiolrwydd eu hymarfer a’u hymchwil er mwyn dylanwadu ar newid cadarnhaol ym mholisi’r DU a pholisi rhyngwladol.
































































