Mae Coleg Penybont wrth ei fodd i gyhoeddi bod ei Swyddog Menter ffantastig, Ruth Rowe, wedi cael ei henwi’n enillydd yn y categori Catalydd Menter (AB) yng Ngwobrau Addysgwyr Menter Cenedlaethol 2024. Mae gwobrau, a drefnwyd gan Enterprise Educators UK ac a gafodd eu cyhoeddi yng Nghinio Gala Cynhadledd Ryngwladol Addysgwyr Menter 2024 ar 5 Medi, yn cydnabod rhagoriaeth o ran addysg menter ac entrepreneuriaeth mewn addysg uwch ac addysg bellach yn y Deyrnas Unedig.
Mae gwobr y categori Catalydd Menter (AB) yn cael ei rhoi i unigolyn neu dîm yn y sector addysg bellach sy’n darparu addysg neu ymarfer entrepreneuriaeth eithriadol o fewn neu’r tu allan i’r cwricwlwm. Mae ffocws y wobr hon ar ddatblygu sgiliau a phriodoleddau menter eang i’w cymhwyso mewn unrhyw gyd-destun gan gynnwys cyflogaeth ac entrepreneuriaeth. Dan arweiniad Ruth, mae’r strategaeth ‘Byddwch Bopeth y Gallwch Fod Drwy Fenter: Addysg Fenter Gynhwysol yng Ngholeg Penybont’ yn ceisio cynnig cyfleoedd cyffrous i bob dysgwr ddatblygu eu sgiliau. Mae’r rhain yn cynnwys heriau cynhyrchu syniadau, gweithdai ‘Defnyddio Meddwl Dylunio i Ddatrys Problemau Anodd’ a gweithgareddau wedi’u creu’n arbennig sy’n ysgogi mentergarwch, fel y gêm fwrdd ‘Boom or Bust’, tebyg i nadroedd ac ysgolion, a’r ystafell ddianc ‘Plasty Cyfrinachau’, i enwi ond ychydig.
“Dw i wrth fy modd bod y gwaith rydyn ni’n ei wneud yng Ngholeg Penybont i sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu’r sgiliau menter sydd eu hangen arnynt i fod yn llwyddiannus mewn bywyd wedi cael ei gydnabod gan yr anrhydedd arbennig hon. Am ddechrau gwych i’r flwyddyn academaidd newydd!” Ruth Rowe, Swyddog Entrepreneuriaeth
Yn 2023, etholwyd Ruth i ymuno â bwrdd cyfarwyddwyr Enterprise Educators UK (EEUK). Cefnogwyd enwebiad Ruth gan weithwyr proffesiynol o faes Addysg Fenter o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, sy’n brawf o’i henw da a’i chyflawniadau yn y sector. Mae Ruth wedi bod yn angerddol ers tro am helpu myfyrwyr i wireddu eu llawn botensial trwy addysg menter ac entrepreneuriaeth. Ers dechrau gweithio i’r Coleg yn 2010, mae Ruth wedi cefnogi myfyrwyr di-rif i ddatblygu eu strategaethau busnes a’u setiau sgiliau er mwyn datblygu eu syniadau busnes.
Mae Coleg Penybont mor falch o gael aelod mor gefnogol ac angerddol o’r tîm â Ruth, ac mae’r wobr hon yn dyst i’w hymroddiad.
































































