Mae Coleg Penybont wedi cynnal y rownd ragbrofol olaf ar gyfer categori Roboteg Ddiwydiannol WorldSkills UK 2023.
Cymerodd pum tîm o Goleg Penybont a Choleg Gŵyr Abertawe ran yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn yr Academi STEAM ar 30 Mehefin. Croesawodd Coleg Penybont gyflogwyr o’r diwydiant, gan gynnwys Sony UK TEC, Renishaw a FANUC, yn ogystal â gwesteion o sefydliadau academaidd eraill i wylio’r gystadleuaeth a chefnogi’r cystadleuwyr.
Roedd tasg y rownd ragbrofol yn gofyn i’r cystadleuwyr ddefnyddio rhaglennu all-lein i ddilyniannu meddalwedd efelychu robotiaid er mwyn rhoi pos jig-so at ei gilydd. Gan ddefnyddio celloedd addysgol FANUC, aeth y timau ati i brofi eu sgiliau dros bedair awr a hanner. Roedd y dasg yn ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn arddangos y cymwyseddau allweddol sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant, gyda’r galw am ddatrysiadau robot cydweithredol ar gynnydd.
Roedd dau ddysgwr i bob tîm, ac roedd tri o’r pum tîm a oedd yn cystadlu yn y digwyddiad wedi dod o Goleg Penybont. Mae pawb ac eithrio un o’r rheiny o Goleg Penybont a gystadlodd yn rownd ragbrofol WorldSkills yn brentisiaid, sy’n gweithio gyda Sony UK TEC ym Mhencoed ac Envases ym Mhort Talbot ar hyn o bryd.
Roedd un o dimau’r Coleg yn cynnwys Chloe Walford a Martyna Duba, a enillodd Aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn y categori Roboteg Ddiwydiannol yn gynharach eleni.
Hefyd yn bresennol oedd Eva Hodgson, enillydd medal arian y DU y llynedd, a gynrychiolodd Goleg Penybont yn y categori Roboteg Ddiwydiannol ochr yn ochr â’i phartner, Catrina Morgan. Mae Eva, sydd wedi cael ei dewis i gynrychioli’r DU yn WorldSkills Lyon 2024, yn brentis gyda Renishaw ar hyn o bryd, ac yn parhau i weithio gyda Choleg Penybont i feithrin ei sgiliau Roboteg ymhellach.
Er mwyn cymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills, roedd yn ofynnol i bob ymgeisydd arddangos eu sgiliau rhaglennu all-lein gan ddefnyddio offer arbenigol o FANUC a meddalwedd ROBOGUIDE. Gydag 20 o dimau yn cymryd rhan yn y rownd ragbrofol yr wythnos diwethaf ar draws y DU – ym mhencadlys FANUC yn Coventry, MCT yn Lerpwl, a Northern Regional College yng Ngogledd Iwerddon – dim ond llond llaw o’r timau â’r sgoriau uchaf fydd yn cael eu gwahodd i rownd derfynol wythnos o hyd y DU wythnos ym mis Tachwedd.
Elusen annibynnol yw WorldSkills UK, sy’n cefnogi pobl ifanc ledled y byd drwy hyfforddiant, asesu a meincnodi sy’n seiliedig ar gystadlaethau. Bob blwyddyn mae’n cynnal cyfres o gystadlaethau sydd â ffocws galwedigaethol i roi cyfle i unigolion a thimau ddangos eu medrusrwydd mewn lleoliad diwydiannol. Mae’r cystadlaethau’n darparu cyfleoedd dysgu a datblygu gwych sy’n meithrin y sgiliau craidd y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Hoffai Coleg Penybont ddiolch i gyflogwyr lleol, Sony UK TEC ac Envases, sydd wedi cefnogi’r prentisiaid drwy gydol y gystadleuaeth a’u hastudiaethau. Dymunwn bob lwc i’r cystadleuwyr sy’n cynrychioli’r Coleg wrth gyrraedd cam nesaf cystadleuaeth WorldSkills:
































































