Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Vivienne Buckley wedi cael ei phenodi’n Bennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol benywaidd cyntaf Coleg Penybont; carreg filltir bwysig wrth inni agosáu at ein canmlwyddiant.
Bydd Viv, a oedd gynt yn Ddirprwy Bennaeth y Coleg, yn dechrau yn y rôl Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol dros dro heddiw, y 1af o Fedi, yn dilyn penodiad Pennaeth presennol y Coleg, Simon Pirotte, yn Brif Swyddog Gweithredol cyntaf Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) Cymru.

Enillodd Viv y wobr ‘Addysgwr Eithriadol’ yn uwchgynhadledd arweinyddiaeth Ffederasiwn Colegau a Pholytechnics y Byd a gynhaliwyd yn Sbaen yn 2022 – cydnabyddiaeth ryngwladol o’i heffaith a’i gwaith yn y sector addysg ôl-16 ac yng Ngholeg Penybont. Roedd Viv hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Womenspire yr elusen Chwarae Teg yn 2021, ac fe enillodd wobr Arwain Cymru ar gyfer Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus.
Mae Viv yn arweinydd ac yn ymarferydd addysgu medrus, ar ôl gweithio mewn nifer o sefydliadau ledled Cymru mewn rolau addysgu ac arwain ar draws y sector addysg bellach ac uwch. Mae Viv hefyd yn ymwneud yn weithredol â’r celfyddydau a’r theatr yn ei chymuned, gan ymgymryd â rolau sy’n cynnwys Cyfarwyddwr Artistig Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg a bod yn aelod o fwrdd The Other Room Theatre.
Mae Viv wedi arwain dull y Coleg o reoli ymddygiad yn gadarnhaol, ac yn ddiweddar Coleg Penybont oedd y sefydliad addysg bellach cyntaf i ennill statws partner gyda When The Adults Change, yr arbenigwyr ymddygiad blaenllaw, dan arweiniad Paul Dix.
“Roedd y panel penodi ar gyfer swydd Pennaeth Dros Dro Coleg Penybont yn unfrydol yn ei benderfyniad i benodi Viv Buckley i arwain y Coleg yn dilyn penodiad Simon Pirotte i’r Comisiwn. Fel Cadeirydd y Llywodraethwyr, edrychaf ymlaen at weithio gyda Viv, sy’n arweinydd eithriadol o ddawnus ac egnïol ac yn un a fydd yn fwriadus ac yn benderfynol o adeiladu ar lwyddiant presennol y Coleg.”
Jeff Greenidge, Cadeirydd Corff Llywodraethu Coleg Penybont
































































