Yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed gan Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon, mae’r Coleg yn falch o gyhoeddi penodiad llwyddiannus ein Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol presennol, Simon Pirotte fel Prif Swyddog Gweithredol cyntaf y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) sydd newydd ei ffurfio.
Y Comisiwn fydd yr awdurdod strategol ar gyfer goruchwylio pob agwedd ar Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru, corff newydd a noddir gan Lywodraeth Cymru a grëwyd o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).
Bydd y Comisiwn yn gyfrifol am strategaeth, ariannu a goruchwylio addysg bellach (AB), gan gynnwys colegau a chweched dosbarth ysgolion, addysg uwch (AU), gan gynnwys ymchwil ac arloesi, addysg i oedolion, dysgu oedolion yn y gymuned, prentisiaethau a hyfforddiant.
Ers ymuno â Choleg Penybont fel Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol yn 2013, mae Simon wedi arwain y Coleg wrth gyflawni canlyniadau rhagorol. Yn dilyn arolygiad llawn gan Arolygydd Ei Fawrhydi Estyn ym mis Mawrth 2022, cafodd y Coleg ei ganmol am ei ddiwylliant cefnogol a chynhwysol cryf ar gyfer dysgwyr a staff.
Mae’r Coleg yn parhau i adeiladu ar ei ganlyniad rhagorol o’r arolygiad Estyn blaenorol. Mae wedi ennill nifer o wobrau urddasol yn ddiweddar, gan gynnwys Coleg AB y Flwyddyn yn y DU yn y Times Educational Supplement ac ymhlith y 50 ‘Cwmni Mawr Gorau i Weithio iddynt yn y DU’, yn cael ei osod yn rhif 33 ar restr Best Companies ar gyfer 2022. Hefyd cyrhaeddodd y Coleg rif 8 yn y categori ‘Cwmnïau Gorau i Weithio iddynt yng Nghymru’ a 3ydd yn y DU yn y categori ‘Addysg a Hyfforddiant’ ar gyfer 2022.
Yn 2018, cafodd Simon y wobr ar gyfer Sefydliad Cyfarwyddwyr y DU/Trydydd Cyfarwyddwr Cyhoeddus y Flwyddyn ac yn 2021, cafodd Simon ei gydnabod ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, gan dderbyn OBE am ei wasanaethau i addysg uwch ac addysg bellach, ar ôl iddo wneud effaith arwyddocaol trwy gydol ei yrfa, yn ymestyn dros sectorau ysgol, addysg bellach ac addysg uwch.
Bydd y Dirprwy Bennaeth presennol, Vivienne Buckley, yn dod yn Bennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol dros dro Coleg Penybont, gan alluogi’r corff llywodraethu i gychwyn yn ffurfiol ar broses recriwtio i benodi’n barhaol i’r rôl.
“Roedd y panel penodi ar gyfer Pennaeth Dros Dro Coleg Penybont yn unfrydol yn ei benderfyniad i benodi Viv Buckley i arwain y Coleg yn dilyn penodiad Simon Pirotte i CTER. Fel Cadeirydd y Llywodraethwyr, edrychaf ymlaen at weithio gyda Viv, sy’n arweinydd eithriadol o ddawnus ac egnïol ac yn un a fydd yn bwrpasol ac yn benderfynol o adeiladu ar lwyddiant presennol y Coleg.”
Jeff Greenidge, Cadeirydd Corff Llywodraethol Coleg Penybont
“Mae Coleg Penybont yn lle arbennig iawn a byddaf yn ei golli cymaint. Rwy’n hynod falch o daith barhaus y Coleg o lwyddiant. Mae cyflawni rhagoriaeth yn un peth, ond mae ei gynnal a’i wella yn gofyn am ymrwymiad ac ymroddiad o’n staff, llywodraethwyr a phartneriaid anhygoel sy’n creu amgylchedd cynhwysol i’n dysgwyr i fod yn hapus, diogel a llwyddiannus.
Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn fy mod wedi cael fy ymddiried i arwain sefydliad mor wych, wedi’i amgylchynu gan staff dawnus ac angerddol. Byddaf yn ymgymryd â rôl newydd gyffrous ond heriol, rydw i’n gwybod y bydd yn hollbwysig wrth lywio addysg ôl-16 yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rwyf wrth fy modd bod corff llywodraethu’r Coleg wedi penderfynu penodi Vivienne Buckley yn Bennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol dros dro. Mae Viv yn arweinydd rhagorol, galluog ac uchelgeisiol a bydd yn darparu sefydlogrwydd a chysondeb i’r Coleg yn ystod y cyfnod pontio hwn.”
Simon Pirotte OBE, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Penybont
Mae gan y Coleg gynlluniau uchelgeisiol i agor campws newydd yng nghanol tref Pen-y-bont yn 2025, yn dilyn buddsoddiad o £30m mewn Academi STEAM a Chanolfan Astudiaethau’r Tir newydd ar Gampws Pencoed y llynedd. Gallwch ddarllen mwy am y cynlluniau cyffrous hyn yma: bridgend.ac.uk/campws-newydd-yng-nghanol-y-dref
































































