Yn gynharach yr wythnos hon, ymunodd Coleg Penybont â phartneriaid addysg bellach ac uwch eraill i gryfhau’r berthynas rhwng darparwyr addysg a’r gymuned.
Gyda chefnogaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, mae’r Bartneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru (SWCEP) newydd yn bartneriaeth rhwng 10 sefydliad addysgol sy’n gweithredu o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Gyda’r nod cyffredin o bennu Agenda Cenhadaeth Ddinesig a rennir, bydd y bartneriaeth strategol yn gwella’r cysylltiadau rhwng y sectorau addysg bellach ac addysg uwch, tra’n darparu dull mwy cydweithredol ar gyfer ymgysylltu dinesig yn y rhanbarth – dull a fydd yn ymateb i anghenion lleol a rhanbarthol a nodwyd.
Ynghyd â Choleg Penybont, y sefydliadau yn y bartneriaeth yw Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y Brifysgol Agored, Coleg Caerdydd a’r Fro, Y Coleg Merthyr Tudful, Coleg Gwent, a Choleg y Cymoedd.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae gan ein colegau a’n prifysgolion rôl hollbwysig i’w chwarae wrth gefnogi llwybrau allan o dlodi, gweithio mewn partneriaeth â phobl a chymunedau, a chynnig cyfleoedd i unigolion o gefndiroedd amrywiol ddod at ei gilydd. Pleser yw clywed am y sgyrsiau y mae’r sefydliadau wedi bod yn eu cael gyda sefydliadau cymunedol ynghylch sut y gallant helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y rhanbarth drwy weithio gyda nhw.
“Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn sbarduno dull mwy strategol at ymgysylltu dinesig ar draws pob rhan o addysg a hyfforddiant ôl-16, gan annog sefydliadau i ymestyn y tu hwnt i’r campws a helpu i hyrwyddo llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’r cytundeb yma rhwng sefydliadau yn darparu cyfle gwirioneddol i symud y gwaith yma ymlaen mewn ffordd gadarnhaol iawn.”
I gadarnhau’r cyd-ymrwymiad hwn i Genhadaeth Ddinesig yn y rhanbarth, yn ystod y lansiad ym Mhrifysgol De Cymru fe lofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) gan gynrychiolwyr o bob un o bartneriaid SWCEP, gan gynnwys Joe Baldwin, Dirprwy Bennaeth ar gyfer Taith y Dysgwyr, Systemau ac Arfer Cynhwysol yng Ngholeg Penybont.
“Mae’r Bartneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru newydd-anedig yn cynrychioli ymrwymiad pwysig, gan ailddatgan y rôl rydyn ni’n ei chwarae fel coleg, fel rhan o’n cymuned. Rydym wedi ymrwymo i greu a hwyluso cyfleoedd i bawb ddysgu sgiliau newydd, caffael gwybodaeth, datblygu eu hyder a byw bywydau hapus. Rydyn ni am gyfarparu a chysylltu pobl, gan eu galluogi i gyfrannu mewn cymdeithas y gallant ffynnu ynddi.”
Joe Baldwin, Dirprwy Bennaeth ar gyfer Taith y Dysgwyr, Systemau ac Arfer Cynhwysol
Dywedodd Jacob Ellis, Arweinydd Ysgogi Newid ar gyfer Materion Cyhoeddus a Rhyngwladol yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
“Mae datblygiad Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru yn dangos cydnabyddiaeth o bwysigrwydd cydweithrediad y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach i gwrdd â heriau cymunedau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
“Wrth weithio ar y cyd, trwy lens nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd y bartneriaeth mewn lle hanfodol a strategol i wrando ar gymunedau ac ymateb i heriau allweddol.”
































































