Dewiswyd myfyrwyr Celfyddydau Digidol o Goleg Penybont i arddangos eu gwaith yn Origins Creatives 2023, y dathliad blynyddol o gyflawniad myfyrwyr a gynhelir gan Brifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL).
Dewiswyd Nia Balendez a Rowan Fry, sydd ill dau wedi astudio’r Diploma Lefel 3 mewn Celfyddydau Digidol, Animeiddio a Chyfathrebu Graffig, i arddangos eu hanimeiddiadau ochr yn ochr â gwaith myfyrwyr Addysg Bellach eraill o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Sefydlwyd Origins Creatives gan UAL ac mae’n rhoi cyfle i’r rheini sy’n caru celf a phroffesiynolion o’r diwydiant fel ei gilydd ddarganfod talent greadigol gwreiddiol ymhlith myfyrwyr ledled y DU.
Roedd y sioe yn arddangos y sbectrwm o greadigrwydd myfyrwyr, gan ddod â gweithiau o Gelf a Dylunio, Busnes Ffasiwn a Manwerthu, Cyfryngau Creadigol, Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio ynghyd. Aseswyd yr holl gyflwyniadau gan guradur annibynnol gan ystyried eu heffaith esthetig, cryfder y cysyniad ac eglurder cyfathrebu.
Cyflwynodd y ddau fyfyriwr o Goleg Penybont ffilmiau animeiddiad 2D byr yn archwilio’r thema o ailadrodd trwy agweddau uniaethol y profiad dynol. Dewisiodd UAL y ddau animeiddiad hyn o blith dros 500 o gyflwyniadau, yn rhychwantu’r amrediad o fynegiant artistig, i’w harddangos fel rhan o’r digwyddiad mawreddog.
Mae animeiddiad Nia yn canolbwyntio ar y profiad cyffredin o orfeddwl a bod wedi’ch gorlwytho â chyfrifoldebau bywyd, gan arwain at amhariad ar gwsg. Mae gwylwyr yn cael eu gwahodd i ddehongli breuddwydion y cymeriad yn eu ffyrdd eu hunain, gan ehangu effaith a natur fyfyriol y fideo.
Mae cyflwyniad Rowan yn trafod caethiwed i gemau cyfrifiadur. Mae ‘Don’t Get Sucked In!’ yn gwrthgyferbynnu bywyd go iawn a byd y gêm drwy’r defnydd trawiadol o liw a symudiad. Mae’r ffilm yn llwyddo i ddangos natur amsugnol gemau cyfrifiadur wrth nodi pwysigrwydd cael eich gwreiddio mewn realiti.
Eisiau archwilio eich creadigrwydd? Edrychwch ar ein cyrsiau Celf, Dylunio a Chyfryngau Creadigol.
































































