Roedd Coleg Penybont yn falch tu hwnt i gynnal un o’i ddigwyddiadau mwyaf o’r flwyddyn mewn seremoni rithiol swmpus, a alluogodd enillwyr gwobrau a’u gwesteion i ddathlu ar-lein.
Roedd yn brynhawn i ddathlu llwyddiannau myfyrwyr o flwyddyn academaidd 2020-2021 ac i gydnabod pawb sydd wedi chwarae rhan yn eu llwyddiant, yn cynnwys rhieni, gofalwyr, teulu a staff y coleg.
O’r 23 o fyfyrwyr a dderbyniodd wobrau cwricwlwm uchel eu parch, enillodd dwy hefyd wobrau ychwanegol a gyhoeddwyd yn ystod y prynhawn. Cafodd Tegan Butler, Dysgwr y Flwyddyn mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y wobr am Ymrwymiad i Astudio a derbyniodd Scarlett James, Dysgwr y Flwyddyn mewn Chwaraeon, brif Wobr Dysgwr y Flwyddyn y Coleg.
Cafodd Tegan ei chanmol gan ei thiwtoriaid am fod yn fyfyrwraig gefnogol, calonogol a gyda ffocws, sy’n gweithio’n galed ac yn ymroi yn llwyr i waith coleg. Dychwelodd Tegan i’r coleg eleni ac mae’n awr yn symud ymlaen gyda Diploma Lefel 2 mewn Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygu.
Yn yr un modd, canmolwyd Scarlett am ei llwyddiannau academaidd rhagorol ac am ei hymroddiad i helpu eraill, yn ogystal ag ymdopi ag ymrwymiadau tu allan i’r coleg ynghyd â’i hastudiaethau, yn cynnwys ei llwyddiannau cystadleuol gwych mewn caiacio.
Mae hyn yn gamp wych i’r ddwy fyfyrwraig a ddisgrifiwyd gan eu tiwtoriaid fel dysgwyr rhagorol sydd wedi cyflawni cymaint yn y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd Cymoedd i Arfordir, enillydd Gwobr Partneriaeth gyda Chyflogwyr, hefyd eu cydnabod am eu dymuniad i wella bywydau’r rhai yn ein cymuned. Bu’r bartneriaeth rhwng y Coleg a’r cwmni yn ei le ers nifer o flynyddoedd ac mae rhannu gwerthoedd a safiad moesegol cryf yn gwneud y sefydliad yn bartner allweddol ar gyfer gwaith y Coleg yn y dyfodol.
Hoffem longyfarch unwaith eto bawb a enillodd wobr am eu llwyddiannau a dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.