BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol

BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol

Astudiwch tuag at yrfa werth chweil mewn Gwaith Cymdeithasol lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn. Cyflwynir ein gradd Gwaith Cymdeithasol llawn amser mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ac fe fydd yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa fel Gweithiwr Cymdeithasol cofrestredig trwy ddarparu gwybodaeth academaidd ochr yn ochr â phrofiad ymarferol.

Mae dosbarthiadau bach a thîm addysgu cefnogol yn darparu amgylchedd delfrydol i fyfyrwyr ffynnu ynddo wrth astudio, tra bod ein partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn eich cysylltu â’r adnoddau ychwanegol y mae rhaglen fwy yn eu cynnig.

Mae canlyniadau ein Harolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS 2024) yn cefnogi ein canlyniadau gwych, gyda 93.75% o fyfyrwyr yn nodi bod lefel yr addysgu ar y cwrs yn uchel. Mae 100% o raddedigion mewn gwaith neu astudiaeth bellach o fewn 15 mis wedi iddynt raddio (Arolwg Deilliannau Graddedigion 2023)​.

Trosolwg a modiwlau

Yn ein rhaglen Gwaith Cymdeithasol, mae addysg myfyrwyr yn cael ei lywio gan ddeddfwriaeth, theori a thystiolaeth sy’n seiliedig ar ymchwil, mewn perthynas â gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd gwaith cymdeithasol. Mae’r cwrs wedi’i lunio o amgylch y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol (2017) a chaiff myfyrwyr eu cefnogi i ystyried materion cydraddoldeb a hawliau dynol yn feirniadol drwy gydol y cwrs. Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau a gwerthoedd y proffesiwn Gwaith Cymdeithasol, ac yn defnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth ym mhob tasg.

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â thri lleoliad gwaith yn ystod y cwrs, gan atgyfnerthu’r hyn sy’n cael ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth gyda phrofiad a geir trwy gyfleoedd ymarfer gwaith cymdeithasol. Mae'r cwrs yn darparu 200 diwrnod mewn lleoliadau ymarferol (20 diwrnod ym mlwyddyn 1, 80 diwrnod ym mlwyddyn 2, a 100 diwrnod ym mlwyddyn 3) a fydd yn cynnwys o leiaf ddau leoliad ymarfer, gan ddarparu nifer o gyfleoedd dysgu.

Treulir llawer o'r cwrs mewn lleoliadau o fewn asiantaethau yn ne Cymru a bydd y gallu i deithio i'r asiantaethau hyn yn fuddiol.
Mae pob myfyriwr sy'n cofrestru ar y BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol yn cael tiwtor personol a fydd yn darparu cymorth ar ffurf tiwtorialau grŵp ac unigol.

Gan fod Gwaith Cymdeithasol yn rhaglen a reoleiddir yn broffesiynol, mae'n ofynnol i bob myfyriwr yng Nghymru gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd myfyrwyr cymwys yn cael eu henwebu ar gyfer bwrsariaeth Gofal Cymdeithasol Cymru adeg ymuno â’r rhaglen. Mae rhagor o wybodaeth am fwrsariaethau myfyrwyr ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gofynion mynediad
  • Tariff UCAS: 96
  • TGAU: Yn ddelfrydol 5 TGAU gradd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 ar y cyfan, gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf 3 Safon Uwch - CCC. Ystyrir Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Estynedig Technegol Caergrawnt - MMM
  • Diploma Mynediad i AU - Llwyddo - Nid oes angen pynciau penodol.
  • NVQ Lefel 3 neu 4 mewn pwnc gwaith cymdeithasol/gofal cymdeithasol perthnasol.
  • Gofynion eraill: Cyfweliad llwyddiannus a DBS. Tystiolaeth o brofiad gwaith mewn lleoliad gofal cymdeithasol.

Bydd cyfuniadau o'r cymwysterau uchod yn cael eu derbyn os ydynt yn bodloni ein gofynion sylfaenol. Os nad yw eich cymwysterau wedi'u rhestru, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn hbotes@bridgend.ac.uk.

Gofynion profiad

Dylai myfyrwyr fod â rhywfaint o brofiad gwaith mewn lleoliad gofal cymdeithasol. Gallai'r profiad gwaith hwn fod wedi'i gwblhau unrhyw bryd, ond mae profiad mwy diweddar yn well.

Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gofal sylweddol megis y rheiny sy’n ofalwyr sylfaenol i aelod o’r teulu, plentyn/person ifanc o dan gyfrifoldeb yr awdurdod lleol, ffrind neu gymydog yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol. Yn ogystal, bydd profiad a gafwyd yn gweithio neu’n gwirfoddoli mewn amrywiaeth o leoliadau gofal gan gynnwys gyda phlant a theuluoedd, gydag oedolion mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, cwnsela, neu gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn lleoliadau addysgol yn cael ei ystyried yn eich cais.

Gwybodaeth am y cyfweliad

Mae cyfweliadau'n cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd trwy MS Teams. Byddwch yn derbyn hysbysiad o ddyddiad eich cyfweliad trwy UCAS a thrwy e-bost gan Met Caerdydd. Yna byddwch yn derbyn gwahoddiad MS Teams, gyda'ch amser cyfweld penodol, gan dîm y rhaglen.

Bydd eich cyfweliad unigol yn para tua 15-20 munud. Bydd yn cael ei wneud gan aelodau staff academaidd o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ochr yn ochr ag ymarferwyr gwaith cymdeithasol ac unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, sy'n ymwneud â'r Rhaglen. Anogir ymgeiswyr i ymgyfarwyddo â’r wybodaeth ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n ymwneud â Chod Ymddygiad Gofal Cymdeithasol Cymru (2017), a deddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael y wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dulliau asesu

Bydd asesiadau’n cynnwys dysgu wrth ymarfer, ymarferion efelychu/astudiaeth achos, traethodau, adroddiadau, ac aseiniadau, cyflwyniadau grŵp ac unigol, ac arholiadau. Bydd myfyrwyr hefyd yn cynhyrchu portffolios sy'n gysylltiedig â'u dysgu seiliedig ar ymarfer, sy'n cynnwys arsylwi ymarfer a myfyrdodau.

Gall myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gael mynediad at dîm ymroddedig o arbenigwyr i'w cefnogi gyda'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo.

Parhewch â'ch astudiaethau

Bydd gan fyfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus hawl i ymarfer fel gweithiwr cymdeithasol â chymwysterau proffesiynol.

Gwnewch gais
Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch