Neithiwr enillodd myfyrwyr Coleg Penybont 30 o wobrau yn seremoni wobrwyo Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2023, gan gynnwys clod ‘Bands Band’ i grŵp cerddoriaeth o’n fyfyrwyr, Wired. Enillwyd medalau yn gyffredinol, gyda’r Coleg yn hawlio 10 Aur, 18 Arian ac 1 Efydd.
Fel un o chwe lleoliad cynnal ar gyfer y seremoni, cyflwynodd Coleg Penybont saith gwobr gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Yn cyflwyno’r medalau’n fyw i’r Coleg roedd Simon Pirotte, Pennaeth a Phrif Weithredwr, a Suzanne Packer, Cymrawd er Anrhydedd.
Cynhaliwyd y seremoni yn Academi STEAM y Coleg lle bu’r myfyrwyr a gymerodd ran, eu teuluoedd a’u tiwtoriaid yn dathlu cyflwyniad a llwyddiannau myfyrwyr. Roedd llywodraethwyr y Coleg, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David, ac Aelodau’r Senedd, Luke Fletcher AS a Huw Irranca-Davies AS, hefyd yn bresennol i gefnogi ymdrech aruthrol y myfyrwyr ar y cyd.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gyfres flynyddol o ragbrofion cystadleuol ar draws ystod o feysydd galwedigaethol, a gynhelir rhwng Ionawr a Mawrth. O Roboteg i Arddwriaeth, mae myfyrwyr yn cystadlu yn eu categorïau dewisol, gan roi cyfle iddynt arddangos a meincnodi eu sgiliau yn erbyn eu cyfoedion. Eleni cymerodd dros 1,600 o fyfyrwyr ran yn y cystadlaethau, gyda dim ond 189 o fedalau ar gael.
Hoffem longyfarch yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn y Cystadlaethau Sgiliau eleni ac rydym yn hynod falch o’n henillwyr. Dyma enillwyr medalau Coleg Penybont eleni: