Llawlyfr Myfyrwyr
HELO!
Yng Ngholeg Penybont, rydyn ni am i bob un o’n myfyrwyr fod yn bopeth y gallant fod. Rydyn ni’n ymfalchïo yn y gefnogaeth a’r cyfleoedd rhagorol rydyn ni’n eu cynnig i’n myfyrwyr, tu fewn a thu fas i’r ystafell ddosbarth.
P’un a hoffech gael gwybod am y cymorth lles sydd ar gael, sut i sefydlu’ch busnes eich hun, neu’r cymorth ariannol y gallech fod â hawl iddo, rhowch nod tudalen i’r wefan ddefnyddiol hon a fydd yn rhoi blas i chi ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth astudio gyda ni.
Eich porth myfyrwyr personol yw’r ffordd orau o gael mynediad at eich amserlen, tracio targedau, gweld bathodynnau digidol, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am bob digwyddiad coleg. Dyma hefyd eich siop un stop ar gyfer credydau argraffu, adnoddau llyfrgell ac offer hanfodol fel Google Classroom a Gmail.
Cofiwch ein dilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol hefyd!
Ydych chi’n gwybod?

Gwasanaethau Myfyrwyr
Mae ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ar gael i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau neu gymorth y gallai fod ei angen arnoch, gan gynnwys cyllid a thrafnidiaeth.
Gallwch ddod o hyd iddynt:
- Campws Penybont: Bloc A, llawr gwaelod (gyferbyn â siop goffi)
- Campws Pencoed: Prif Floc Addysgu, llawr gwaelod
Cymorth Ariannol
Yn ystod eich amser gyda ni, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol i helpu gyda chostau astudio. Gall hyn gynnwys y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) neu’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn (CAWG).
Gall y Gronfa Ariannol Wrth Gefn gefnogi myfyrwyr gyda pheth o’r gost am ofal plant, cinio, deunyddiau cwrs, teithio, neu wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Sylwer: mae cymhwystra ar gyfer cyllid yn dibynnu ar incwm y cartref. Ewch i’r wefan gyllid berthnasol i weld y telerau ac amodau llawn.


Trafnidiaeth
Mae yna nifer o ffyrdd i chi deithio i’r Coleg ac mae’n bwysig eich bod chi’n penderfynu pa opsiwn sy’n iawn i chi.
Rhoi Gwybod Am Absenoldeb
Disgwylir i fyfyrwyr gynnal presenoldeb o 95% o leiaf, ond rydyn ni’n deall weithiau na ellir osgoi absenoldebau.
Cysylltwch â ni cyn dechrau’r diwrnod coleg i roi gwybod y byddwch yn absennol, gan nodi eich enw, eich rhif adnabod, y rheswm dros eich absenoldeb a phryd ydych yn disgwyl bod yn ôl yn y Coleg: absennol@bridgend.ac.uk


Gyrfaoedd a Menter
Cyfleoedd
Cyfleoedd yw enw ein hyb gyrfaoedd. Rydyn ni’n gweithio gyda myfyrwyr i’w helpu i baratoi am swydd yn y dyfodol a’u cysylltu â’r cyflogwyr lleol a chenedlaethol gorau. Gall ein tîm gyrfaoedd gynnig y cymorth canlynol:
- Ysgrifennu CV
- Paratoi am gyfweliad swydd
- Cael profiad gwaith
- Dewis pynciau neu gyrsiau
Bob dydd Llun a dydd Mercher, mae ein tîm gyrfaoedd yn cynnig sesiwn galw heibio rhwng 10yb-1yp ar Gampws Pencoed a Champws Penybont.
Gallwch ddod o hyd iddynt:
- Campws Penybont: Bloc A, llawr gwaelod (gyferbyn â’r siop goffi)
- Campws Pencoed: Prif Floc Addysgu, llawr gwaelod


Menter
P’un a hoffech weithio’n llawrydd, sefydlu eich busnes neu’ch menter gymdeithasol eich hun, neu ystyried hunangyflogaeth, mae ystod eang o gymorth ar gael. Mae Swyddog Entrepreneuriaeth arbenigol gennym, a all gynnig cyngor a mentora pwrpasol i chi a’ch cyfeirio at adnoddau a sefydliadau a all eich helpu i gyflawni eich nodau.
Eisiau cymryd y camau nesaf ar eich taith fenter? Cysylltwch â Ruth Rowe, ein Swyddog Entrepreneuriaeth: rrowe@bridgend.ac.uk

Bywyd Myfyrwyr a Lles
Mae ein tîm yma i’ch helpu i gael y profiad gorau wrth i chi astudio gyda ni. Efallai y bydd adegau pan fydd angen rhywfaint o help arnoch i ddatrys problem nad yw’n mynd i ffwrdd, i roi gwybod am bryder, i gael cyngor i’ch helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth neu i drafod eich iechyd meddwl a’ch lles.
Gall myfyrwyr wneud apwyntiad neu alw heibio bob dydd rhwng 12yp a 2yp.
Bywyd Myfyrwyr
Rydym yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau difyr drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys digwyddiadau codi ymwybyddiaeth. Cewch gyfle i fod yn rhan o amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau gwahanol gan gynnwys y Gymdeithas GRL (grŵp grymuso merched), Balchder CP a’r Gymdeithas Eco. Rydym hefyd yn trefnu gweithgareddau i’ch cadw chi’n heini, megis twrnameintiau tennis bwrdd a bocsio-ymarfer. Maen nhw’n ffordd wych o gwrdd â myfyrwyr eraill!
Os hoffech chi gynrychioli eich cyd-fyfyrwyr, gallech ddod yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr (StAR). Bydd hyn yn eich galluogi i ennill sgiliau gwerthfawr megis cyfathrebu, datrys problemau, negodi ac arwain.

Diogelu
Rydyn ni am i’n Coleg fod yn lle diogel i ddysgu a datblygu. Gallwch ein helpu ni drwy ddangos eich cerdyn adnabod bob amser, dweud wrthym os ydych yn pryderu neu’n poeni am rywbeth neu rywun arall, a bod yn ymwybodol o’ch ymddygiad eich hun.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu ein myfyrwyr rhag radicaleiddio ac eithafiaeth. Os oes rhywbeth yn eich poeni, boed hynny’n ymwneud â chi’ch hun neu rywun arall, gallwch ddefnyddio’r botwm “Adrodd Pryder” ar y porth myfyrwyr. Mewngofnodwch a dewiswch yr opsiwn “Adrodd Pryder” i roi gwybod i ni am broblem yn gyflym ac yn uniongyrchol.
Os nad oes gennych fynediad at liniadur, gallwch sganio’r codau QR sydd ar bosteri yn eich ystafelloedd dosbarth ac ar draws y campysau. Mae’n gyflym, yn hawdd ei ddefnyddio, ac yn ein helpu i roi’r gefnogaeth gywir i chi.


Myfyrwyr-Lywodraethwyr
tholir dau Fyfyriwr-lywodraethwr bob blwyddyn i fynychu cyfarfodydd Corff Llywodraethu’r Coleg. Anogir Myfyrwyr-lywodraethwyr i gymryd rhan mewn cyfarfodydd, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u profiad i helpu i lywio trafodaethau a phenderfyniadau a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar fyfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol.
I gael gwybodaeth am Fyfyrwyr-lywodraethwyr, cysylltwch â: lles@bridgend.ac.uk

Ein Cymuned Ddysgu
Fel rhan o’n Haddewid Rhaglen Ddysgu, rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ac i wella eich twf a’ch datblygiad personol. Yn gyfnewid, gofynnwn i chi gytuno â’n Cod Dinasyddiaeth Myfyrwyr a bodloni ein disgwyliadau dysgu:
Bod yn Barod
Bod yn Barchus
Bod yn Ddiogel
Mae’r rhain yn bwysig iawn i ni yma yng Ngholeg Penybont, ac rydyn ni’n disgwyl i bob myfyriwr arddangos yr ymddygiadau hyn ar bob adeg. Byddwch yn dysgu mwy am ein Cod Dinasyddiaeth pan fyddwch chi’n dechrau astudio.
Canolfannau Llwyddiant
Mae Canolfannau Llwyddiant y Coleg yn darparu amgylchedd croesawgar i’n myfyrwyr ddysgu ynddo. Byddwch yn dod o hyd i lyfrau, nofelau graffig, cylchgronau ac amrywiaeth o adnoddau ar-lein i’ch helpu gyda’ch astudiaethau a’ch aseiniadau.
Mae cyfleusterau cyfrifiadurol, ar gael hefyd, gan gynnwys chromebooks i’w benthyg a mannau astudio ystwyth lle gallwch ddod â’ch dyfais eich hun a chysylltu â’r wi-fi am ddim. Mae ein staff cyfeillgar a gwybodus hefyd yn gallu’ch helpu i argraffu, i lungopïo ac i ddod o hyd i adnoddau.


Addewid Rhaglen Ddysgu
Mae pob myfyriwr llawn amser yng Ngholeg Penybont yn dilyn Rhaglen Ddysgu sydd wedi’i chynllunio i’w galluogi i fod yn bopeth y gallant fod.
Bydd y Rhaglen Ddysgu yn canolbwyntio ar 3 phrif faes:
- Meithrin Sgiliau Galwedigaethol
- Datblygu Sgiliau i Lwyddo
- Twf a Datblygiad Personol
Dyma ein haddewid i chi. Yn gyfnewid mae’n rhaid i chi fod yn…
Barod, yn Barchus ac yn Ddiogel.
6 sgìl i lwyddo
Rydyn ni’n credu mewn rhoi cyfle i’n myfyrwyr fod yn ddinasyddion byd-eang ar gyfer y dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni wedi nodi 6 Sgìl i Lwyddo a fydd yn cael eu harchwilio a’u hymgorffori yn eich Rhaglen Ddysgu:
- Cynllunio a Threfnu
- Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau
- Creadigrwydd ac Arloesedd
- Effeithlonrwydd Personol
- Dinasyddiaeth Weithredol
- Ysgogi Newid
Fe ddatblygon ni’r cynllun yma ochr yn ochr â chyflogwyr ac arweinwyr o’r diwydiant i sicrhau bydd ein myfyrwyr yn gwbl barod i ddelio â phopeth y bydd bywyd yn ei daflu atynt pan fyddant yn symud ymlaen i’r byd gwaith neu’n parhau â’u taith mewn addysg.
Byddwch yn canolbwyntio ar sgiliau fel meddwl yn feirniadol a datrys problemau, creadigrwydd ac arloesedd, a sut i gynllunio a threfnu. Byddwch hefyd yn ennill bathodynnau digidol yn ystod eich taith gyda ni er mwyn i chi allu profi pa sgiliau newydd rydych wedi’u datblygu.


Y Gymraeg
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu profiad dwyieithog i fyfyrwyr. Fel myfyriwr, mae gennych hawl i gael y canlynol:
- Llythyrau, ffurflenni a gwybodaeth arall yn Gymraeg
- Tiwtor Personol sy’n siarad Cymraeg
- Gwasanaeth cwnsela yn Gymraeg
- Cyfarfodydd yn Gymraeg
- Tystysgrifau yn Gymraeg
- Cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg (yn dibynnu ar y corff arholi)
P’un a ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu, hoffem eich annog i ddefnyddio cymaint o Gymraeg â phosibl yn y Coleg. Mae amrywiaeth o weithgareddau Cymraeg trwy gydol y flwyddyn i’ch helpu i ymgysylltu â myfyrwyr eraill ac aelodau o staff sy’n siarad Cymraeg.
Mae gennym ni hefyd Hwyluswyr Cymraeg mewn meysydd blaenoriaeth, Swyddog Cymraeg a Llysgenhadon Cymraeg wedi’u cefnogi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd yma i’ch helpu a’ch cefnogi i barhau i ddefnyddio’ch Cymraeg yn y coleg.
Cymorth Dysgu
Os oes gennych chi anhawster dysgu, anabledd neu gyflwr meddygol, efallai y bydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arnoch yn y Coleg.
You can also discuss any initial concerns you have regarding the need for additional learning support with your course tutor or by contacting our Additional Learning Support Team at: aln@bridgend.ac.uk

Cardiau Adnabod Myfyrwyr
Yng Ngholeg Penybont, mae cadw ein campws yn ddiogel, yn groesawgar ac yn gynhwysol i bawb ar frig ein blaenoriaethau. Yn seiliedig ar adborth o’n Cynadleddau Llais y Dysgwr, rydym wedi dysgu bod gwybod pwy sydd ar y campws yr un mor bwysig i chi ag ydyw i ni.
Dyna pam, o fis Medi eleni, rydym yn diweddaru ein disgwyliad: wisgo a dangos eich cerdyn adnabod bob amser tra byddwch ar y campws.
Mae gosod disgwyliad clir a chyson yn ein helpu i gynnal cymuned ddiogel wrth barhau i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i ofynion iechyd a diogelwch mewn lleoliadau ymarferol, fel gweithdai ac amgylcheddau dysgu ymarferol.
Rydym am i chi deimlo’n gyfforddus wrth fynegi eich hun, felly yn ystod y broses gofrestru, bydd gennych sawl opsiwn ynghylch sut i ddangos eich cerdyn adnabod:
- Laniardiau Coleg Penybont: Dewiswch o ddyluniadau ffres o laniardiau wedi’u creu i weddu i steiliau gwahanol.
- Eich Laniard Eich Hun: Os yw’n well gennych ddod â’ch laniard eich hun, gallwch ei wisgo.
- Clipiau Cardiau Adnabod: Dewiswch glip i atodi eich cerdyn adnabod yn uniongyrchol i’ch gwisg neu git cwricwlwm.
Bydd gwisgo a dangos eich cerdyn adnabod yn rhan o’n Contract Dinasyddiaeth, y byddwn yn ei drafod yn ystod eich sesiynau sefydlu a’ch gwasanaethau croeso.




















