Roedd yn bleser gennym groesawu’r cynrychiolwyr o Leonard Cheshire, Roxanne a Joshua, a Sarah Murphy AS a Huw Irranca-Davies AS i’r Academi STEAM, fel rhan o grŵp trafod gyda 50 o fyfyrwyr Coleg Penybont.

Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o raglen Leonard Cheshire o’r enw ‘My Voice, My Choice’, sydd â’r nod o roi llwyfan i bobl fynegi eu barn, datblygu sgiliau eiriolaeth a chael effaith gadarnhaol yn y gymuned.
Canolbwyntiodd y sesiwn Holi ac Ateb ar faterion yn ymwneud â chludiant, gwirfoddoli a chynhwysiant cymdeithasol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i fyfyrwyr o’n cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol ac o Dŷ Weston, darpariaeth breswyl arbenigol y Coleg ar gyfer myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, i leisio eu pryderon a’u barn am faterion sy’n effeithio arnynt yn aml.
Mynegodd y myfyrwyr hefyd eu brwdfrydedd dros gymryd mwy o ran yn eu cymunedau lleol, gan ddangos eu bod yn awyddus i weithredu newid a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â hygyrchedd. Anogodd y ddau Aelod o’r Senedd y myfyrwyr yn galonnog i ddefnyddio’u llais dros newid, ac fe wnaethant addo mynd â’r trafodaethau mewnweledol ymhellach ar ran y myfyrwyr.
Mae Leonard Cheshire yn sefydliad sy’n gweithredu ar lefel genedlaethol i gefnogi a grymuso pobl anabl i fyw’n annibynnol. Gyda chartrefi gofal wedi’u lleoli ledled y DU, mae cyrhaeddiad Leonard Cheshire yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddarparu gofal cymdeithasol: maent yn darparu cymorth digidol i roi mynediad at gyfleoedd, yn cynnig cyngor cyflogaeth, cymorth ysgrifennu CV, ac yn helpu cymunedau gyda’u hadnoddau gofal.
“Roeddwn i wrth fy modd bod mewn ystafell yn llawn myfyrwyr sydd eisiau codi eu llais a chael eu lleisiau wedi’u clywed, er mwyn creu newid ystyrlon yn y gymuned.”
Joshua Reeves BEM, Swyddog Cymorth Ymgyrchoedd (Cymru) gyda Leonard Cheshire
































































