Rhaglen interniaeth â chymorth newydd yn cael ei lansio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae wyth dysgwr Coleg Penybont wedi dechrau rhaglen interniaeth â chymorth newydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBS Pen-y-bont ar Ogwr), mewn partneriaeth â DFN Project SEARCH ac Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth ELITE.

Croesawyd Macey, Tara, Rhys, Ella, Kian, Erin, Gwen ac Alfie i’r Cyngor yn ddiweddar, gan nodi dechrau blwyddyn o hyfforddiant, profiad gwaith a datblygiad.

Croesawyd yr interniaid newydd gan Brif Weithredwr CBS Pen-y-bont ar Ogwr, Jake Morgan, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Spanswick, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jane Gebbie, ynghyd ag uwch gynrychiolwyr y Cyngor a staff a fydd yn cefnogi’r rhaglen.

Yn ystod y sesiwn groeso, clywodd y dysgwyr gan Brif Weithredwr CBS Pen-y-bont ar Ogwr, Jake Morgan, a Phennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont, Viv Buckley, a siaradodd am y cyfleoedd sydd o’u blaenau a phwysigrwydd cydweithio yn eu taith tuag at gyflogaeth. Cyflwynwyd yr interniaid hefyd i’r timau a’r partneriaid a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hinterniaeth.

Bydd yr interniaid yn cwblhau tair wythnos o hyfforddiant i ddechrau, cyn dechrau eu lleoliad gwaith 10 wythnos cyntaf. Drwy gydol y rhaglen, byddant yn symud i adrannau gwahanol o’r Cyngor deirgwaith, gan roi’r cyfle iddynt brofi amrywiaeth o rolau a datblygu sgiliau ymarferol yn y gweithle.

Caiff y rhaglen ei darparu drwy fodel DFN Project SEARCH, sy’n cefnogi pobl ifanc ag anableddau i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r profiad sydd eu hangen i symud ymlaen i gyflogaeth hirdymor.

Mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn un o fwy na 200 o sefydliadau ledled y DU sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, gan helpu i greu cyfleoedd cyflogaeth mwy cynhwysol i bobl ifanc.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Jane Gebbie:

“Rydym yn hynod falch o groesawu ein carfan gyntaf o interniaid Project SEARCH i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na chael profiad yn y gweithle – mae’n ymwneud ag agor drysau, meithrin hyder a chreu llwybrau go iawn at gyflogaeth â thâl.

“Rydym yn gwybod y gall y newid o addysg i gyflogaeth fod yn arbennig o heriol i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Fel cyngor, mae gennym gyfrifoldeb i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i sicrhau nad yw talent a photensial yn cael eu hanwybyddu.

“Rydym eisoes wedi gweld y gwahaniaeth y gall y cyfleoedd hyn ei wneud, gyda dau berson ifanc yn symud ymlaen o leoliadau ym Mryn y Cae i gyflogaeth barhaol. Rwy’n gobeithio y bydd y rhaglen hon yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ac yn rhoi’r sgiliau, yr hyder a’r cyfleoedd i’n interniaid newydd lunio eu dyfodol eu hunain.

“Ac yn bwysicaf oll, mae hwn yn gyfle dwyffordd. Mae gan ein interniaid gymaint i’w ddysgu i ni ag sydd gennym ni i’w ddysgu iddyn nhw, gan ddod â safbwyntiau, profiadau a thalentau newydd i’n gweithlu. Edrychaf ymlaen yn fawr at weld beth fyddan nhw’n ei gyflawni.”

Bydd y garfan newydd yn cael ei chefnogi drwy gydol eu lleoliadau gan staff Coleg Penybont, staff CBS Pen-y-bont ar Ogwr a hyfforddwyr swyddi o Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth ELITE.

Meddai Lauren Tomlinson, Arweinydd Tîm ELITE:

“Mae ELITE wrth eu bodd yn gweithio ar y Prosiect Interniaeth â Chymorth newydd mewn cydweithrediad â Choleg Penybont a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ELITE weithio gydag wyth intern; mae gan bob un ohonynt botensial mawr ac maent eisoes yn dangos eu bod yn bobl ifanc hynod alluog sydd â llawer i’w gynnig. Mae ELITE yn edrych ymlaen yn fawr at eu cefnogi gyda’u sgiliau gwaith a’u datblygiad trwy gydol y flwyddyn nesaf.”

Mae’r rhaglen yn adeiladu ar lwyddiant ein graddedigion blaenorol, Jessica a Chloe, a gwblhaodd eu hinterniaethau â chymorth yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Gweithion nhw yn adrannau gwahanol CBS Pen-y-bont ar Ogwr cyn sicrhau cyflogaeth barhaol yn y cyngor ac ers hynny maent wedi dod yn aelodau gwerthfawr o’r tîm.

Mae eu llwyddiant yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall interniaethau â chymorth ei chael wrth helpu pobl ifanc i feithrin hyder, ennill profiad a symud i gyflogaeth.

Croesawodd Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont, Viv Buckley, yr interniaid newydd a siaradodd am bwysigrwydd y bartneriaeth wrth greu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd eu camau i fyd gwaith.

Dywedodd Kathryn Sweet, Rheolwr Cwricwlwm Gofal, Astudiaethau Plentyndod a Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg Penybont:

“Mae’n wych gweld ein interniaid newydd yn cymryd y cam cyntaf hwn i’r byd gwaith ac yn dechrau blwyddyn bositif a boddhaol iddynt. Mae interniaethau â chymorth yn rhoi cyfle i’n dysgwyr ddatblygu eu sgiliau a’u hyder mewn amgylchedd gwaith go iawn, wrth dderbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo.

“Mae gweld llwyddiant Jessica a Chloe, sydd wedi symud ymlaen o’u hinterniaethau â chymorth i gyflogaeth barhaol gyda’r Cyngor, yn dangos yn union beth y gellir ei gyflawni pan roddir y cyfleoedd a’r gefnogaeth gywir i bobl ifanc. Rydym yn hynod falch o’n carfan newydd ac yn gyffrous i weld ble mae’r profiad hwn yn mynd â nhw.”

Fel rhan o’r sesiwn groeso, cyflwynwyd eu laniardiau CBS Pen-y-bont ar Ogwr newydd i’r interniaid gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Spanswick, a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jane Gebbie, cyn derbyn bagiau nwyddau Coleg Penybont i nodi dechrau eu taith.

Gyda hyfforddiant, profiad yn y gweithle a chefnogaeth bwrpasol, bydd yr interniaid newydd nawr yn dechrau eu taith i ddatblygu eu sgiliau, magu hyder a chymryd eu camau nesaf tuag at gyflogaeth.

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Law
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch