Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr
Trwy gydol eich taith addysgol gyda Choleg Penybont, byddwn yn casglu, prosesu, storio a rheoli data sy’n ymwneud â’ch gwybodaeth bersonol, statws meddygol/iechyd, anghenion dysgu ychwanegol, a’ch hanes cyflogaeth ac addysg. Byddwn hefyd yn buddsoddi diddordeb mewn data sy’n gysylltiedig â’ch cynnydd, presenoldeb, llwyddiant, lles, a’ch diogelwch ar gyfer y cwrs/cyrsiau yr ydych yn ymrestru arno/arnynt.
Trwy ymrestru yng Ngholeg Penybont, rydych yn rhoi caniatâd pendant i’r data hyn gael eu casglu amdanoch chi a’u storio ar system y coleg. Defnyddir y data a gedwir at ddibenion cyllid, ystadegol, gweinyddol, a monitro sy’n ymwneud â’ch astudiaethau. Bydd Coleg Penybont ond yn cadw’ch gwybodaeth cyn hired ag y mae ei hangen, a bydd yn ei dinistrio yn gyfatebol â hynny ac yn unol â’r amserlen gadw.
O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018, mae gennych hawl i gael copi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch chi, a’r hawl i ofyn i’r wybodaeth hon gael ei dileu ar unrhyw adeg wedi i’ch astudiaethau yng Ngholeg Penybont ddod i ben.
Trwy gydsynio i’r hysbysiad preifatrwydd hwn, rydych chi’n rhoi caniatâd i Goleg Penybont i gasglu, prosesu a storio eich data personol ar system myfyrwyr Coleg Penybont.
Defnyddir y wybodaeth bersonol ac addysgol a gesglir amdanoch chi ar gyfer amrywiaeth o ddibenion mewnol yng Ngholeg Penybont, a hefyd gan y sefydliadau trydydd parti / cyrff cyllido a ganlyn:
- Llywodraeth Cymru
- Estyn
- Tribal
- Gyrfa Cymru
- Cyllid Myfyrwyr Cymru
- Cyrff Dyfarnu (ar gyfer y cymwysterau yr ydych chi’n eu hastudio)
- Asiantaeth Ariannu Sgiliau
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont
- Wavehill (i ddysgwyr PLA yn unig)
- Eich ysgol (os yw eich astudiaethau trwy gwrs partneriaeth ysgol)
- Cyflogwyr (os yw eich Cyflogwr yn noddi eich astudiaethau)
- Darparwyr Hyfforddiant (os yw eich astudiaethau ar y cyd â darparwr hyfforddiant dysgu yn y gwaith)
- Prifysgol Cymru (os yw eich astudiaethau ar y cyd â phartneriaeth Prifysgol)
- Eich awdurdod lleol at ddibenion diogelu, gwasanaethau cymdeithasol a/neu gymorth dysgu ychwanegol
- Purlos
- Concept4
- Anvil
- Microsoft PowerBi
Ni fydd Coleg Penybont yn trosglwyddo’ch gwybodaeth i drydydd parti heb gael eich caniatâd yn gyntaf.
Trwy gydsynio i’r hysbyseb preifatrwydd hwn, rydych chi’n rhoi caniatâd i Goleg Penybont:
- Rhannu eich data personol gyda unrhyw drydydd parti a nodwyd uchod.
- Defnyddio eich gwybodaeth gyswllt at ddibenion marchnata ar gyfer buddion presennol/dyfodol y coleg.
- Cysylltu â’ch rhiant/gwarcheidwad ynglŷn â’ch astudiaethau a’ch presenoldeb (ar gyfer myfyrwyr dan 18 oed).
Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth Cerianne Morgan (camorgan@bridgend.ac.uk)
Fersiwn 2.2 – 6 Gorffennaf 2023



















