Ymwelodd yr hyfforddwr pêl-droed Cameron Toshack, sy’n meddu ar drwydded ‘Pro’ UEFA, â Choleg Penybont yr wythnos diwethaf i dreulio’r dydd gyda myfyrwyr yr Academi Bêl-droed, gan rannu mewnwelediadau gwerthfawr i fyd datblygu chwaraewyr a strategaeth perfformiad.
Fe ddechreuodd Cameron, sydd hefyd yn gweithio fel Ymgynghorydd Arweinyddiaeth a Hyfforddiant, ar ei daith ym myd pêl-droed fel chwaraewr i glwb Abertawe cyn symud ymlaen i weithio fel hyfforddwr proffesiynol yn 2011. Mae wedi gweithio i nifer fawr o glybiau ym Mhrydain ac yn rhyngwladol yn ystod ei yrfa, gan gynnwys ei swydd ddiweddar fel rheolwr cynorthwyol gyda Leeds United.
Dechreuodd y diwrnod yn yr ystafell ddosbarth gyda Cameron yn siarad am ei yrfa, yr hyn a ddylanwadodd arno a’r heriau a wynebwyd ganddo, gan dynnu sylw at y camau a gymerodd ar hyd y ffordd a’r cymwysterau a’i helpodd i lwyddo. Bu hefyd yn trafod gwahanol agweddau ar strategaeth bêl-droed, megis chwarae heb feddiant, gwasgu a thrawsnewidiadau, gan roi arweiniad ar dactegau a thechnegau hyfforddi.
Cynhaliwyd ail ran yr ymweliad ar y cae, lle gwahoddodd Cameron y myfyrwyr i gymryd rhan mewn dosbarth meistr ymarferol ac aeth ati i arddangos arfer gorau yn ystod gemau. Fe wnaeth y sesiwn nid yn unig roi mewnwelediadau strategol amhrisiadwy i’r myfyrwyr a datblygu eu sgiliau technegol, ond hefyd eu helpu nhw i ymgorffori’r gwersi a ddysgwyd o’i gyflwyniad.
“Diolch yn fawr iawn i Cameron am ddod i mewn a rhoi cyflwyniad mewnweledol a sesiwn hyfforddi ardderchog i’n myfyrwyr o’r Academi Bêl-droed. Rhoddodd Cameron flas i’n myfyrwyr o sut beth yw hyfforddi elît ar y lefel uchaf, yn ogystal â rhannu cyngor ac awgrymiadau allweddol â’r myfyrwyr i’w hysbrydoli a’u helpu i gyrraedd eu potensial o ran chwaraeon, addysg a’u bywydau personol. Roedd hon yn ddosbarth meistr go iawn gan Cameron ac yn brofiad gwych i bawb!”
Jason Perry, Darlithydd Chwaraeon yng Ngholeg Penybont
Mae Academi Bêl-droed y Coleg, dan arweiniad cyn bêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Jason Perry, yn cynnig cyfle i fyfyrwyr uchelgeisiol ddatblygu fel chwaraewyr ac fel pobl. Gan efelychu proffesiynoldeb y gamp ar y cae ac oddi arno, mae’r Academi yn darparu hyfforddiant a mentora ar ffurf sesiynau hyfforddi wythnosol, gemau a chynlluniau datblygu unigol.
I ddysgu mwy am Academïau’r Coleg a sut y gallent helpu i roi hwb i’ch gyrfa, ewch i: www.bridgend.ac.uk/astudio-gyda-ni/academiau.