Cydnabod dysgwyr Coleg Penybont yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026
24/09/2026Mae chwe dysgwr Coleg Penybont wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026. Enillodd Honey Jenkins a Shelby Weaver-Slaughter wobrau, tra cyrhaeddodd Mantas Puleikis, Paula Cosby, David Charnock ac Owen Wrigley y rownd derfynol.
Mae Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion, a drefnir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn dathlu cyflawniadau dysgwyr sy’n oedolion ledled Cymru ac yn cydnabod y gwahaniaeth y gall dysgu ei wneud i unigolion, eu gweithleoedd a’u cymunedau.
Enillodd Honey, dysgwr Lefel 3 mewn Adeiladwaith – Gwaith Brics, Wobr Llais y Dysgwr.
Yn ogystal â’i hastudiaethau, cwblhaodd Honey brentisiaeth gyda Taylor Wimpey ac mae wedi mwynhau llwyddiant pellach drwy gydol ei thaith brentisiaeth; cafodd ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer categori ‘Dawn y Dyfodol’ yn 2024 cyn cael ei henwi’n Brentis Lefel 3 y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau a Dysgwyr B-wbl a Thwf Swyddi Cymru+ yn 2026.
Enillodd Shelby, prentis Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol Lefel 4 gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Wobr Sgiliau Hanfodol Bywyd.
Yn ogystal ag ennill profiad gwerthfawr drwy ei phrentisiaeth, mae Shelby wedi datblygu ei sgiliau a’i hyder drwy ei hastudiaethau yng Ngholeg Penybont, ac fe’i henwyd hefyd yn Ddysgwr y Flwyddyn ym maes Dysgu Seiliedig ar Waith – Gwobr Dominic – yng Ngwobrau Blynyddol Coleg Penybont yn gynharach eleni.
Cyrhaeddodd Mantas Puleikis y rownd derfynol yng nghategori Sgiliau Gwaith, gan gydnabod ei gyflawniadau drwy ddysgu a datblygu. Cyrhaeddodd Paula Cosby y rownd derfynol hefyd ar gyfer Gwobr Sgiliau Hanfodol Bywyd, yn dilyn ei llwyddiant yng Ngwobrau Blynyddol Coleg Penybont, lle cafodd ei henwi’n Dysgwr y Flwyddyn ym maes Dysgu Oedolion yn y Gymuned.
Cyrhaeddodd dau ddysgwr arall o Goleg Penybont y rownd derfynol hefyd; cafodd David Charnock ei roi ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Heneiddio’n Dda, a chyrhaeddodd Owen Wrigley y rownd derfynol ar gyfer y Wobr Newid Bywyd.
Dywedodd Denise Brookes-Cooze, Pennaeth Dysgu Seiliedig ar Waith Coleg Penybont:
“Mae’n wych gweld Honey a Shelby yn ennill gwobrau yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eleni. Rydym yn hynod falch ac yn teimlo’n lwcus ein bod wedi cefnogi’r dysgwyr hyn drwy gydol eu teithiau dysgu, ac wedi gweld eu hyder, eu sgiliau a’u profiad yn tyfu. Mae Honey yn brentis eithriadol sydd nid yn unig wedi meistroli ei chrefft, ond sydd hefyd wedi herio canfyddiadau ac wedi hyrwyddo newid diwylliannol cadarnhaol i fenywod yn y diwydiant adeiladwaith. Mae penderfyniad Shelby i oresgyn rhwystrau dysgu ac i sicrhau ei lle yn y brifysgol yr un mor ysbrydoledig, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi chwarae rhan yn ei thaith fel prentis.
Mae’r cyflawniadau hyn gan yr holl ddysgwyr yn dangos yn wirioneddol yr hyn y gellir ei gyflawni trwy addysg oedolion a dysgu seiliedig ar waith, ac edrychwn ymlaen at weld ble bydd eu teithiau’n mynd â nhw nesaf.”
Cyflwynwyd y gwobrau i Honey a Shelby yn y seremoni a gynhaliwyd yng ngwesty The Coal Exchange ym Mae Caerdydd, lle ymunon nhw â dysgwyr oedolion eraill o bob rhan o Gymru i ddathlu eu cyflawniadau.
Roedd y gwobrau’n rhan o Wythnos Addysg Oedolion, sy’n dathlu dysgu gydol oes ac yn annog pobl ledled Cymru i ddarganfod y cyfleoedd y gall addysg, hyfforddiant a datblygu sgiliau eu cynnig.
Llongyfarchiadau i Honey, Shelby, Mantas, Paula, David ac Owen ar y cyflawniadau gwych hyn.























