Cyhoeddwyd mai Coleg Penybont oedd enillydd gwobr ‘Menter Diogelu’ yng Ngwobrau’r Gymdeithas Diogelu ac Amddiffyn Plant yn ddiweddar. Mae’r wobr fawreddog hon yn cydnabod ymdrechion eithriadol i ddiogelu lles plant a phobl ifanc.
Mae Tîm Lles Myfyrwyr y Coleg wedi cael ei ganmol am ei gynllun diogelwch iechyd meddwl arloesol. Mae’r dull hwn sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr yn mynd i’r afael â’r heriau iechyd meddwl y mae llawer o bobl ifanc yn eu hwynebu heddiw, a all effeithio’n sylweddol ar eu hastudiaethau a lles cyffredinol yn y coleg. Mae’r cynllun yn grymuso myfyrwyr i gymryd perchnogaeth am eu hiechyd meddwl ac yn rhoi’r offer a chefnogaeth iddynt asesu eu hiechyd meddwl, datblygu strategaethau personol, a chael mynediad at adnoddau priodol pan fo angen.
Mae nodweddion allweddol y cynllun yn cynnwys:

Mae ymrwymiad y Coleg i les myfyrwyr wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ei god dinasyddiaeth myfyrwyr ac mae’n credu bod pob myfyriwr yn haeddu amgylchedd diogel a chefnogol lle gallant ffynnu. Mae Coleg Penybont wedi ymrwymo i wella ei wasanaethau cymorth i fyfyrwyr yn barhaus. Mae’r tîm yn mynd ati i chwilio am ddulliau arloesol o fynd i’r afael â phryderon iechyd meddwl a sicrhau bod gan bob myfyriwr fynediad at yr adnoddau angenrheidiol i lwyddo.
“Mae ennill y wobr hon yn foment falch i Goleg Penybont ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i les myfyrwyr. Wrth wraidd hyn mae ein cred mewn ‘bod yn bopeth y gallwch fod’, gan rymuso myfyrwyr i gyrraedd eu potensial academaidd a phersonol llawn. Mae’r cyflawniad hwn yn arddangos dull arloesol y Tîm Lles sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn ein hysbrydoli i barhau i wella, gan atgyfnerthu ein hymroddiad i ddiogelu iechyd meddwl ein myfyrwyr.”
Sion Whitehouse, Rheolwr Lles a Diogelu
































































