Gwersi trawiadol: pwysigrwydd cymuned mewn addysg

Ymwelodd pedwar aelod o dîm gweithredol Coleg Penybont â De Affrica yn ddiweddar i ddatblygu partneriaethau strategol, cynorthwyo â gweithredu technolegau digidol mewn cymunedau lleol, a chyfnewid arferion dysgu.

Aeth Vivienne Buckley, Dirprwy Bennaeth; Matthew Rees, Pennaeth Cynorthwyol; Catrin Sullivan, Cyfarwyddwr Campws Pencoed; a Scott Morgan, Pennaeth Arloesedd Digidol a Gwasanaethau TG ar y daith wyth diwrnod a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y tîm wedi’u lleoli ar Fferm Middelpos, ger Malmesbury yn ne orllewin y wlad.

Mae Middelpos, sy’n fferm weithredol, yn gartref i 13 o deuluoedd ac yn cynhyrchu olifau a grawnwin. Aeth y tîm ati i gefnogi’r menywod a’r plant gyda gweithrediad dyddiol y fferm a’r clwb ar ôl ysgol, sy’n cael ei redeg gan Inspire Children and Youth.

“Er gwaethaf yr heriau niferus y mae teuluoedd gwledig yn eu hwynebu, maent yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod plant lleol yn cael y cyfleoedd a’r adnoddau i fynychu’r ysgol, yn dysgu sgiliau fel trefniadaeth academaidd, garddio a jiwdo, yn ogystal â chael amser i chwarae a datblygu sgiliau cymdeithasol.”

Catrin Sullivan, Cyfarwyddwr Campws Pencoed ar gyfer Coleg Penybont

Mae Inspire Children and Youth, elusen datblygiad gwledig sy’n hyrwyddo entrepreneuriaeth menywod fel rhan o’u cenhadaeth, wedi bod yn seiliedig ar y fferm ers 2017. Mae eu hamcan yn parhau i fod yn un syml: creu mannau diogel i fenywod a phlant gwledig a darparu cymorth addysgol cyfannol, ymwybyddiaeth iechyd a hyfforddiant entrepreneuraidd. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae mwy na 40 o swyddi wedi cael eu creu ar gyfer menywod ar y fferm, gan dorri’r gylchred genedliadol o dlodi a cham-drin i lawer. Mae eu rhaglen yn dathlu posibiliadau entrepreneuriaid benywaidd ac yn helpu i ddarparu’r offer sydd ei angen ar fenywod i wneud cynnydd a llwyddo.

Cydnabyddodd dîm Coleg Penybont fod eu hymweliad yn gyfle dysgu gwych. Yn ystod ymweliad â Phrifysgol y Western Cape, fe gymeron nhw ran mewn trafodaethau a oedd yn ystyried themâu allweddol ynghylch datblygiad gwledig, gan gynnwys addysg, cyllid a sgiliau gwyrdd. Nid yn unig oedd y cyfarfodydd hyn wedi darparu’r wybodaeth i’r tîm i roi’r cymorth gorau i drigolion Fferm Middelpos, ond roedd hefyd wedi helpu i atgyfnerthu gwersi allweddol a ddysgwyd yn ystod y daith. Bydd cynaliadwyedd ac ethos addysgol yn ddwy thema allweddol a fydd yn cael eu defnyddio i gyfoethogi arferion addysgu a chwricwlaidd y Coleg o hyn ymlaen.

“Mae llawer o bethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol, fel mynediad dibynadwy at y rhyngrwyd ac argaeledd gwybodaeth, yn foethau neu ddim yn bodoli o gwbl ar ffermydd gwledig, ond maen nhw’n dal i lwyddo i ffynnu a darparu rhaglenni addysgol a chymdeithasol hanfodol. Y prif beth i mi gymryd i ffwrdd o’r profiad yma yw pwysigrwydd cymuned – hyd yn oed mewn tirwedd gymdeithasol-wleidyddol hynod o anodd, mae’r bobl yn parhau i fod yn gyfeillgar, yn groesawgar ac yn wirioneddol benderfynol o newid eu hamgylchiadau. Gallwn ddysgu llawer o’u huchelgais – waeth pa mor heriol yw eu sefyllfa, maen nhw wir yn credu y gallant newid y byd.”

Y prif beth i mi gymryd i ffwrdd o’r profiad yma yw pwysigrwydd cymuned – hyd yn oed mewn tirwedd gymdeithasol-wleidyddol hynod o anodd, mae’r bobl yn parhau i fod yn gyfeillgar, yn groesawgar ac yn wirioneddol benderfynol o newid eu hamgylchiadau. Gallwn ddysgu llawer o’u huchelgais – waeth pa mor heriol yw eu sefyllfa, maen nhw wir yn credu y gallant newid y byd.”

Scott Morgan, Pennaeth Arloesedd Digidol a Gwasanaethau TG yng Ngholeg Penybont

Wedi dychwelyd i Gymru, mae’r bartneriaeth rhwng Coleg Penybont, Inspire Children and Youth a Phrifysgol y Western Cape yn dal i ffynnu. Bydd y Coleg yn parhau i gefnogi Inspire Children and Youth gyda’u gweithrediadau digidol, ac mae’n bwriadu creu alotment ‘Inspire’ ar y safle er iechyd a lles staff a chynaliadwyedd. Yn ogystal, nod y Coleg yw creu cyfleoedd gwirfoddoli parhaus i fyfyrwyr a staff trwy Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru. Trwy’r rhaglen hon, bydd aelodau o gymuned Coleg Penybont yn cael y cyfle i weithio ochr yn ochr ag Inspire Children and Youth yn Ne Affrica a chyfrannu at ddatblygiad cymunedau gwledig.

“Rydyn ni’n gwybod mai dim ond y dechrau yw hwn ar berthynas arbennig iawn gyda Choleg Penybont, ac ni allwn aros i weld sut mae’r ymweliad yma’n datblygu i fod yn obaith, yn ysbrydoliaeth ac yn arloesedd.”

Ingrid Lestrade, Cyfarwyddwr Inspire Children and Youth

Modd
Y cyfan
Rhan amser
Llawn amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital Technologies
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Engineering
English
Equine
ESOL
Facilities Management
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Social Care
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Languages
Leadership and Management
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
NPTC
NPTC
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
STEM
STEM
Step Up
Travel and Tourism
Veterinary Nursing
Welding
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Ymadawyr Ysgol
Prentisiaethau
Astudio Rhan-Amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch
Mewngofnodi Fy Ffefrynnau English Language English
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen Instagram
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn