Gweinidog yr Economi yn ymweld â hyb gyrfaoedd a menter y coleg

Heddiw ymwelodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS, â Choleg Penybont i ymweld ag un o’r Biwroau Cyflogaeth a Menter, a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Warant i Bobl Ifanc. Mae’r warant yn ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru i bawb dan 25 oed sy’n byw yng Nghymru, i’w cefnogi nhw i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu i ddod o hyd i swydd neu fod yn hunangyflogedig.

Wedi’i lansio yn 2018, ‘Cyfleoedd’ yw enw gwasanaeth mewnol y Coleg ar gyfer darparu cyngor a chymorth ynghylch gyrfaoedd, cyflogaeth a menter. Mae myfyrwyr yn gallu cael mynediad i ystod eang o gyfleoedd i ddatblygu a gwella sgiliau craidd ac i ymgysylltu â chyflogwyr trwy leoliadau gwaith, dosbarthiadau meistr, ymweliadau a mentora un-i-un. Yn 2020, enillodd y coleg Farc Gyrfa Cymru i gydnabod ei ymrwymiad i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael mynediad at addysg, cyngor a chymorth gyrfaol o safon, a thynnwyd sylw pellach at hyn gan ei nodi fel un o gryfderau’r coleg yn ei arolygiad diweddar gan Estyn ym mis Mawrth.

Ar hyn o bryd mae’r coleg yn gweithio gyda mwy na 250 o gyflogwyr, sy’n amrywio o fusnesau bach a chanolig i gyflogwyr rhanbarthol a chenedlaethol mawr, gan sicrhau bod ei gynnig o ran cwricwlwm, hyfforddiant a phrentisiaethau yn bodloni anghenion ynghylch sgiliau a busnes.

Yn ogystal â’r hybiau gyrfaoedd a menter ar y campws, bydd y coleg yn agor ‘siop godi’ dros dro yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddarach y mis yma, gan ddarparu cyfleoedd cyffrous i ymgysylltu â’r gymuned ehangach a’i chefnogi drwy ddarparu gwybodaeth, cymorth ac arweiniad am yrfaoedd.

Mae ymweliad y Gweinidog hefyd yn cyd-daro ag Wythnos Addysg Oedolion ac Wythnos ‘Caru Ein Colegau’ – ymgyrch genedlaethol dan arweiniad Cymdeithas y Colegau sydd â’r nod o dynnu sylw at rôl a chyfraniad hanfodol colegau wrth gefnogi dysgwyr, cymunedau a busnesau.

Dywedodd yr Is-bennaeth ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith a Gweithgarwch Masnachol, Matthew Williams:

“Roeddem yn falch iawn o groesawu’r Gweinidog i gwrdd â staff a dysgwyr heddiw fel rhan o’i ymweliad â Cyfleoedd, ein hyb gyrfaoedd a menter. Mae gan y coleg hanes cryf o weithio gyda chyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gefnogi piblinellau talent a sicrhau bod y cwricwlwm rydym yn ei gynnig yn bodloni anghenion ein cymunedau a’n cyflogwyr.

Mae’r coleg yn parhau i adeiladu ar y cymorth a ddarperir i ddysgwyr a busnesau – bydd ein ‘siop godi’ gyrfaoedd newydd, sy’n agor yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn hwyrach y mis yma, yn rhoi cyfle cyffrous arall i alluogi pobl i archwilio cyfleoedd, datblygu sgiliau newydd a chael cymorth.”

Modd
Y cyfan
Rhan amser
Llawn amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital Technologies
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Engineering
English
Equine
ESOL
Facilities Management
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Social Care
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Languages
Leadership and Management
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
NPTC
NPTC
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
STEM
STEM
Step Up
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Ymadawyr Ysgol
Prentisiaethau
Astudio Rhan-Amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch
Mewngofnodi Fy Ffefrynnau English Language English
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen Instagram
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn