Esbonio Sgiliau i Lwyddo
Fel rhan o’ch taith ddysgu yng Ngholeg Penybont, mae’n ofynnol i chi ddilyn Rhaglen Sgiliau i Lwyddo.
Mae nifer o lwybrau ar gael a byddant yn cael eu dewis wrth gofrestru. Bydd y dewis hwn yn adlewyrchu’r cwrs rydych chi wedi gwneud cais amdano, y maes cwricwlwm rydych chi wedi’i ddewis, yn ogystal â’ch dysgu blaenorol o ran Mathemateg a Saesneg.
Bydd dilyn ein llwybrau Sgiliau i Lwyddo yn eich helpu i ddatblygu sylfaen gadarn mewn cyfathrebu, rhifedd, cyflogadwyedd a thiwtorial ar gyfer datblygiad personol. Mae’r llwybrau hyn yn darparu cymwysterau sy’n ategu eich cwrs galwedigaethol ac yn eich paratoi ar gyfer llwyddiant hirdymor.
Cynlluniwyd y cyrsiau hyn i fyfyrwyr sydd wedi cyflawni Gradd D (Gradd 3) neu wedi symud ymlaen o raglen Lefel 1. Ein nod yw eich helpu i sicrhau Gradd C (Gradd 4) neu uwch, gan ddarparu’r cymwysterau hanfodol sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn eich gyrfa ac addysg bellach.
Er mwyn cydbwyso’ch astudiaethau, mae’r pynciau hyn wedi’u hychwanegu at eich amserlen wythnosol gyda dwy awr o sesiynau addysgu. Yn ogystal â gwersi rheolaidd, gallwch ddefnyddio platfform ar-lein o’r enw Century, a hefyd cynhelir sesiynau adolygu sy’n canolbwyntio ar arholiadau ar y campws ac ar-lein. Mae’r gefnogaeth ychwanegol hon ar gael yn ystod gwyliau hanner tymor y Pasg a mis Mai, yn ogystal ag yn y dyddiau cyn eich arholiadau, gan sicrhau eich bod yn barod i lwyddo.
Dyddiadau Arholiadau TGAU Mathemateg 2026/27:
Uned 1 (di-cyfrifiannell) – Bore Dydd Mawrth 18 Mai
Uned 2 (cyfrifiannell) – Prynhawn Dydd Mawrth 8 Mehefin
Dyddiadau Arholiadau TGAU Saesneg 2026/27:
Uned 1 – gwaith cwrs (1 Cyflwyniad Unigol ac 1 Trafodaeth Grŵp) i’w gwblhau erbyn diwedd mis Ionawr 2027, ac sy’n cyfri am 20% o’r radd gyfan.
Uned 2 – Bore Dydd Mercher 26 Mai
Uned 3 – Bore Dydd Gwener 11 Mehefin
Ar gyfer llawer o feysydd galwedigaethol, cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) yw’r llwybr dewisol i ddatblygu eich sgiliau rhifedd a chyfathrebu. Yn wahanol i arholiadau traddodiadol, mae’r cyrsiau achrededig hyn gan City & Guilds yn canolbwyntio ar gymhwyso eich sgiliau o fewn cyd-destun proffesiynol, go iawn. Mae pob cwrs wedi’i ychwanegu at eich amserlen wythnosol am awr yr wythnos a gellir ei gwblhau naill ai yn Saesneg neu’n Gymraeg.
Os ydych yn astudio cwrs galwedigaethol Lefel 1, byddwch fel arfer yn gweithio tuag at gymwysterau Mynediad 3 mewn Rhif a Chyfathrebu.
I’r rhai sy’n astudio cwrs Lefel 2 neu uwch, byddwch yn canolbwyntio ar gyflawni Lefel 1 neu uwch. Mae’r cymwysterau hyn yn gam hanfodol tuag at eich dyfodol, gan brofi i gyflogwyr a phrifysgolion bod gennych y sgiliau ymarferol o ran llythrennedd, rhifedd a TG sydd eu hangen ar gyfer prentisiaethau ac astudiaeth bellach. Cynhelir asesiadau ffurfiol tua diwedd y flwyddyn o dan amodau arholiad, gan sicrhau eich bod yn cael eich profi ar y lefel sy’n adlewyrchu eich cynnydd a’ch gallu orau.
Mae cymwysterau SHC mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar gael ar y lefelau hyn:
- Mynediad 1 – Nid yw’n cyfateb yn uniongyrchol i gymhwyster TGAU ond mae’n gymhwyster mynediad pwysig
- Mynediad 2 – Nid yw’n cyfateb yn uniongyrchol i gymhwyster TGAU. Fe’i gwelir yn gyffredinol fel cam cyn TGAU
- Mynediad 3 – Cyfwerth â TGAU Gradd G
- Lefel 1 – Cyfwerth â TGAU Gradd D
- Lefel 2 – Cyfwerth â TGAU Gradd C
- Lefel 3 – Cyfwerth â TAG Safon Uwch
Mae Astudiaethau Uwch i ddysgwyr sydd wedi llwyddo yn eu harholiadau TGAU Mathemateg a Saesneg ond nid ar gwrs sydd â dewis Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr archwilio ystod eang o gyrsiau gan y Brifysgol Agored ar lefel o’u dewis. Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgwyr ddilyn unrhyw bwnc ar y lefel sydd fwyaf addas iddynt.
Mae’r sesiynau hyn yn hunangyfeiriedig ac nid oes ystafell wedi’i neilltuo ar eu cyfer, fodd bynnag, gall dysgwyr ddefnyddio’r Hyb Llwyddiant.
Anogir dysgwyr sydd wedi cofrestru ar gwrs Astudiaethau Uwch i ‘Ysgogi Newid’, i arwain gweithgareddau myfyrwyr, i fod yn fentoriaid i gyfoedion, ac i helpu i hwyluso clybiau neu gymdeithasau myfyrwyr.
Er gwybodaeth, mae Sesiynau Astudiaethau Uwch wedi’u trefnu i ddechrau yn y Canolfannau Llwyddiant ym mis Hydref
Dewch i’ch sesiynau Astudiaethau Uwch yn ystod yr wythnosau canlynol
- Wythnos yn dechrau 14 Medi
- Wythnos yn dechrau 9 Tachwedd
- Wythnos yn dechrau 11 Ionwar
- Wythnos yn dechrau 22 Chwefror
- Wythnos yn dechrau 12 Ebrill
- Wythnos yn dechrau 14 Mai
I weld beth fyddwch chi’n ei ddysgu, ewch i dudalen we Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.



















