Ddydd Gwener 18 Hydref, aeth Dr Scott Morgan, Pennaeth Arloesi Digidol a Gwasanaethau TG Coleg Penybont, fel siaradwr gwadd i Uwchgynhadledd Arweinwyr Addysg Bellach, a gynhaliwyd gan Google for Education a FE Tech. Fe gynigodd yr Uwchgynhadledd, a gynhaliwyd yn Llundain, gymysgedd unigryw o fewnwelediadau, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth strategaethol, yn ogystal â’r cyfle i rannu profiadau ac arferion gorau gyda chydweithwyr o sefydliadau addysg eraill.
Roedd yr Uwchgynhadledd yn cynnwys sesiynau ar fewnwelediadau strategol i’r defnydd o dechnoleg gwmwl a deallusrwydd artiffisial i wella dysgu ac addysgu, deilliannau myfyrwyr ac effeithlonrwydd sefydliadol, yn ogystal â deall sut mae technoleg yn llywio’r ffordd mae myfyrwyr Addysg Bellach yn dysgu.
Darparodd sesiwn Scott, o’r enw ‘Chwyldroi Mynediad Myfyrwyr at Wybodaeth gydag AI’, gipolwg ar sut mae’r Coleg yn defnyddio technoleg i ddatrys rhai o’i heriau mwyaf. Dilynwyd hyn gan drafodaeth banel gydag arweinwyr eraill o’r sector addysg bellach.

Dros y 12 mis diwethaf, mae Scott a’i dîm wedi bod yn gweithio ar borth newydd sbon i fyfyrwyr y Coleg. Mae’r dashfwrdd newydd, a ddyluniwyd o’r gwaelod i fyny ac sydd wedi’i integreiddio â Tribal EBS a Google Workspace, yn arddangos gwybodaeth allweddol i fyfyrwyr, megis eu hamserlenni, eu targedau, eu presenoldeb a nodiadau canmol neu bryder. Os na allant ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar y dashfwrdd, mae myfyrwyr yn gallu holi’r cynorthwyydd AI integredig trwy deipio eu cwestiynau eu hunain. Mae Google Gemini yn pweru’r ymatebion, sy’n cael eu rhoi yng nghyd-destun gweithgarwch y myfyriwr yn y Coleg.
Mae’r rhyngwyneb, sydd wedi’i ddylunio ar gyfer dyfeisiau symudol yn gyntaf, wedi cael ei ddatblygu’n fewnol gan aelodau o’r Tîm Gwasanaethau TG, ac mae myfyrwyr wedi bod yn rhan annatod o’r broses, o ddylunio i grwpiau ffocws a phrofion alffa. Y nod, yn syml, oedd creu siop-un-stop i fyfyrwyr a oedd yn hygyrch, yn integredig â systemau allweddol y Coleg, ac, efallai’n bwysicaf oll, yn hawdd ei ddefnyddio.
Cefnogwyd y Coleg gyda chyllid gan Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, i fod yn sefydliad arloesi ac i ddatblygu’r prosiect yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24. Y camau nesaf fydd integreiddio Google Classroom a data asesu, archwilio gallu’r porth i ddefnyddio ieithoedd eraill (gan gynnwys y Gymraeg), a rhannu’r hyn a ddysgwyd ag ystod mor eang â phosibl o bobl.
“Mae’r prosiect hwn wedi newid y ffordd y mae myfyrwyr yn rhyngweithio â’u data. Rydym yn llawn cyffro am y camau nesaf ac i ble gallai hyn fynd â ni yn y pen draw. Ond yn y byrdymor, mae cystadleuaeth yn fyw ar hyn o bryd i ddysgwyr enwi cynorthwyydd AI y porth – a bydd yr enillydd yn ennill Chromebook.”
Dr Scott Morgan, Pennaeth Arloesi Digidol a Gwasanaethau TG
































































