Ar ddydd Mercher 1 Mawrth, byddwn yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd yn ein siop godi yng nghanol y dref i amlinellu cynlluniau ar gyfer datblygu ein campws newydd.
Bydd aelodau’r Uwch Dîm Arwain, ynghyd â Rio Architects, yn cyflwyno trosolwg o uchelgeisiau, cysyniadau dylunio a nodau cynaliadwyedd y Coleg ar gyfer ein campws newydd. Ar ôl y cyflwyniad, bydd cyfle anffurfiol i fynychwyr ofyn cwestiynau i’r panel am y prosiect.
Bydd tair sesiwn drwy gydol y prynhawn yn cael eu cynnal yn ein siop godi yng nghanol y dref – sy’n agored i bawb:
Uchelgais y Coleg yw creu adeilad carbon sero net, gyda chyfleusterau dysgu ac addysgu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer addysg ôl-16 ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd buddion cymunedol yn cynnwys theatr 200 sedd, siop goffi a mannau cyfarfod hyblyg ymhlith eraill.
Mae’r cynlluniau trawsnewidiol hyn yn cynrychioli buddsoddiad o £50 miliwn i hyfforddi pobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac aelodau o’r gymuned sydd angen cyfleoedd i ailhyfforddi ac ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr. Bydd y buddsoddiad hefyd yn lleihau ein heffaith amgylcheddol, gyda chynlluniau i gysylltu â system wres ardal newydd Pen-y-bont ar Ogwr.
Wedi’i ariannu’n rhannol gan raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, bydd y datblygiad yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, cefnogi busnesau lleol a defnyddio cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus â’r dref.