Roedd Coleg Penybont yn falch tu hwnt i gynnal un o’i ddigwyddiadau mwyaf o’r flwyddyn yn ddiweddar mewn seremoni rithiol swmpus, a alluogodd enillwyr gwobrau a’u gwesteion i ddathlu ar-lein.
Roedd yn brynhawn i ddathlu llwyddiant myfyrwyr a phartneriaid o flwyddyn academaidd 2020-2021 ac i gydnabod pawb a fu â rhan yn eu llwyddiant.
Cafodd Cymoedd i Arfordir, enillydd Gwobr Partneriaeth Cyflogwr, eu cydnabod am eu dymuniad i wella bywydau pobl yn ein cymuned. Bu’r bartneriaeth rhwng y Coleg a’r cwmni yn ei le ers nifer o flynyddoedd ac mae rhannu gwerthoedd a safiad moesegol cryf yn gwneud y sefydliad hwn yn bartner allweddol ar gyfer gwaith y Coleg yn y dyfodol.
Mae timau uwch arweinyddiaeth o’r ddau sefydliad yn cwrdd yn ddeufisol i rannu gwybodaeth a chytuno ar ystod o ffrydiau gwaith sydd yn fuddiol i bob sefydliad. Mae hyn yn cynnwys rhaglen hyfforddiant rheolaeth sy’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth sy’n canoli ar y person a daeth yn rhaglen arweiniol i’r ddau sefydliad. Yn ddiweddar, enillodd Coleg Penybont Wobr bwysig EHB y Dywysoges Frenhinol am ei a href=”https://www1.bridgend.ac.uk/princess-royal-training-award/” target=”_blank” rel=”noreferrer noopener”>Raglen Arweinyddiaeth Canoli ar yr Unigolyn.
Mae prosiect arall yn gweld grŵp yn cwrdd i fynd â’r agenda datgarboneiddio yn ei flaen ac mae wedi arwain at nifer o gynigion ar y cyd ar gyfer gwaith adfywio a rhaglenni adeiladu cynaliadwy. Bydd y fenter ddiweddaraf yn gweld amrywiaeth o bobl yn derbyn hyfforddiant fel y gall y Coleg a Cymoedd i Arfordir rannu adnoddau a helpu i symud pobl ymlaen.
Dywedodd Joanne Oak, Prif Weithredwr Cymoedd i Arfordir am ennill y Wobr Flynyddol:
“Rydym yn hynod falch i ennill Gwobr Partneriaeth Cyflogwyr Coleg Penybont. Mae’r wobr hon yn cydnabod y gwerthoedd a rannwn a’r berthynas gref sydd gennym gyda’r Coleg ar ein taith i greu cymunedau diogel a hapus ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”
Joanne Oak
Dywedodd Simon Pirotte, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont:
“Mae Cymoedd i Arfordir yn sefydliad blaengar gyda’i lygad ar y dyfodol ac rwy’n hynod falch iddynt dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Mewn cyfnod heriol, mae partneriaethau cryf mor bwysig i roi’r gefnogaeth orau i’r cymunedau a wasanaethwn.”
Simon Pirotte
Hoffai Coleg Penybont longyfarch Cymoedd i Arfordir unwaith eto am eu llwyddiant ac edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw yn y dyfodol.