Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024: Coleg Penybont yn ennill gyda 24 o fedalau
15/03/2024Roedd myfyrwyr Coleg Penybont yn fuddugol yn seremoni wobrwyo Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024 neithiwr, gan ennill cyfanswm ardderchog o 24 o fedalau. Enillwyd gwobrau drwyddi draw, gyda’r myfyrwyr yn hawlio 8 Aur, 3 Arian ac 14 Efydd.

Cyn y seremoni, cynhaliodd y Coleg barti dathlu yn ei Academi STEAM cyn teithio i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) Cymru ar gyfer y prif ddigwyddiad. Roedd hwn yn gyfle i ddod â myfyrwyr y Coleg, eu teuluoedd a’u tiwtoriaid ynghyd i ddathlu’r ymdrechion, sgiliau a pherfformiad rhagorol a arddangoswyd gan y myfyrwyr yn ystod y rhagbrofion.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn gyfres flynyddol o ragbrofion cystadleuol ar draws ystod o feysydd galwedigaethol, sy’n cael eu cynnal rhwng Ionawr a Chwefror. Mae myfyrwyr yn cystadlu yn eu categorïau dewisol, gan roi cyfle iddynt arddangos a meincnodi eu sgiliau yn erbyn eu cyfoedion. Eleni, cynhaliwyd 64 o gystadlaethau unigol a oedd yn cwmpasu sgiliau o bedwar sector allweddol: Adeiladu a Seilwaith; Peirianneg a Thechnoleg; Iechyd, Lletygarwch a Ffordd o Fyw; a Digidol, Busnes a Chreadigol.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy’n cael ei chynnal gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, yn llwyfan i gyfranogwyr gystadlu mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol uchel eu parch fel WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills International.
Hoffem longyfarch yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn y Cystadlaethau Sgiliau eleni, ac rydym yn hynod falch o’n henillwyr. Dyma’r myfyrwyr o Goleg Penybont a enillodd fedalau yn 2024:
- Dylunio Graffeg: Nia Balendez, Aur
- Celfyddydau Perfformio: Brook Furlong, Aur
- Celfyddydau Perfformio: Cassie Money, Aur
- Celfyddydau Perfformio: Kacey Peck, Aur
- Celfyddydau Perfformio: Lowri Williams, Aur
- Celfyddydau Perfformio: Mathew Rees, Aur
- Celfyddydau Perfformio: Rose Pierce, Aur
- Celfyddydau Perfformio: Tyler Beddows, Aur
- Sgiliau Adeiladu (14-16 oed): Caled Powell, Arian
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Jac Brisland, Arian
- Sgiliau Cynhwysol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Kiera Merrin, Arian
- Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff): Jessica Bowen, Efydd
- Menter: Bethaney-Mai Hopson, Efydd
- Menter: Rhiannon Elliot, Efydd
- Menter: Rhosyn McMahon, Efydd
- Menter: Samuel Hill, Efydd
- Menter: Tirion Viant, Efydd
- Dylunio a Thechnoleg Ffasiwn: Oliver Thomas, Efydd
- Dylunio Graffeg: Melody Cheung, Efydd
- Trin Gwallt (14-16 oed): Ella Hall, Efydd
- Sgiliau Cynhwysol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Lucy Badman, Efydd
- Roboteg Ddiwydiannol: Aled Gore, Efydd
- Roboteg Ddiwydiannol: Morgan Leyshon, Efydd
- Ffotograffiaeth: Andrew Penny, Efydd



















