
Mae Coleg Penybont yn falch o fod wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog yn swyddogol. Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid a wneir gan sefydliadau i gefnogi’r rhai sydd wedi gwasanaethu a’u teuluoedd, gan eu trin â thegwch a pharch, a sicrhau bod ganddynt fynediad cyfartal at gyfleoedd.
Rydym yn falch bod gennym ar hyn o bryd Wobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn (ERS), 2025.
Mae cyflogwyr sydd â’r wobr hon wedi addo dangos cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog a sicrhau bod eu gwerthoedd yn cyd-fynd â Chyfamod y Lluoedd Arfog.
Yn flaenorol, roedd gan Goleg Penybont Gynllun Cydnabod Cyflogwr (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn – Gwobr Efydd 2024.


Rydym wedi partneru â’r Poppy Factory i gefnogi cyn-filwyr â chyflyrau iechyd i gael gwaith, gan eu helpu i oresgyn unrhyw rwystrau.
Mae ein Polisi Absenoldeb yn cefnogi staff sy’n rhan o’r Lluoedd Arfog Wrth Gefn i fod yn absennol o’r gweithle i gyflawni dyletswyddau gofynnol.
Mae Coleg Penybont yn cefnogi’r Cynllun Credydau Dysgu Uwch (ELCAS), gan roi cymorth i bersonél y Weinyddiaeth Amddiffyn gyda datblygiad gyrfa.
Os ydych chi’n bersonél presennol neu’n gyn-aelodau o’r lluoedd arfog ac â diddordeb yn y cynllun ELCAS, cysylltwch â’n tîm rhan-amser i gael cyngor ac arweiniad ar gyrsiau drwy lenwi’r ffurflen isod.
































































