Mae’r Coleg yn falch o fod wedi cymryd rhan mewn ymweliad proffil uchel ag India, fel rhan o ddirprwyaeth Cymru Fyd-eang o uwch arweinwyr o bum sefydliad addysg bellach, i gyd-fynd â lansiad blwyddyn o ‘Cymru yn India’.
Nod y rhaglen yw cryfhau’r berthynas rhwng Cymru ac India, a helpu i feithrin cyfleoedd masnachu a buddsoddi newydd, hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol a chwaraeon a chadarnhau cydweithrediadau academaidd a gofal iechyd.

Lansiwyd y fenter blwyddyn o hyd gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn Uchel Gomisiwn India yn Llundain ar 1 Mawrth, i gyd-fynd â Dydd Gŵyl Dewi, ac yna lansiad ym Mumbai, a fynychwyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan.
Gwelodd y ddirprwyaeth o golegau addysg bellach Cymru, a ariennir yn rhannol gan Taith, wythnos o archwilio a dysgu mewn partneriaeth, gyda’r ddirprwyaeth yn ymweld â dwy dalaith Indiaidd sy’n flaenoriaeth Cymru Fyd-eang; Hyderabad a Karnataka.
Roedd ymweliadau yn ystod yr wythnos yn cynnwys Llywodraeth Talaith Telangana, Cyngor Addysg Uwch Talaith Karnataka a Phrif Ysgrifennydd Adran Datblygu Sgiliau, Entrepreneuriaeth a Bywoliaethau Karnataka. Ymwelodd y ddirprwyaeth hefyd â nifer o sefydliadau addysgol, gan gynnwys Ystafell Offer a Chanolfan Hyfforddi Llywodraeth Karnataka a’r Sefydliad Sgiliau a Hyfforddiant Cenedlaethol yn Hyderabad.
‘Bu’n fraint wirioneddol cyfarfod â chymaint o swyddogion, addysgwyr a myfyrwyr fel rhan o’r ymweliad. Mae wedi bod yn drawiadol gweld y lefel uchel o ragoriaeth dechnegol a galwedigaethol sy’n cael ei chyflwyno a’r angerdd am ddysgu sydd gan fyfyrwyr. Roedd y ffocws ar addysg alwedigaethol, lles myfyrwyr a nifer y merched sy’n dilyn pynciau technoleg a pheirianneg yn ysbrydoledig.’
Joe Baldwin, Dirprwy Bennaeth Coleg Penybont
Daeth yr ymweliad ag India i ben gyda dathliad lansio terfynol ‘Cymru yn India’ a gynhaliwyd yn Bangaluru nos Iau, a fynychwyd gan ddirprwyaeth Cymru Fyd-eang o golegau o Gymru, ynghyd â Dirprwy Uchel Gomisiynydd Prydain ar gyfer Karnataka a Kerala, Chandru Iyer a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a’r Cyngor Prydeinig.
































































