Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau

Cyfansoddiad ac Aelodaeth

Bydd y Corff Llywodraethu’n gyfrifol am sefydlu’r Pwyllgor hwn ac am benodi aelodau a Chadeirydd y Pwyllgor.

Ni ddylid penodi llai na 5 aelod na mwy nag 7 aelod, gan gynnwys y Pennaeth ex officio.  Bydd angen i leiaf 40% o’r aelodau fod yn bresennol i gael cworwm, a rhaid i leiaf ddau aelod allanol o’r Corff Llywodraethu fod yn bresennol. Gall y Pwyllgor, gyda chymeradwyaeth y Corff Llywodraethu, gyfethol dau aelod sydd ag arbenigedd penodol o du allan i’r Corff Llywodraethu. Ni ddylid cynnwys presenoldeb yr aelodau cyfetholedig yn nifer y cworwm.

Gellir gofyn i aelodau o staff y Coleg fynychu yn ôl yr angen.

I sicrhau annibyniaeth a gwrthrychedd, ni chaniateir i aelodau o’r Pwyllgor hwn fod yn aelodau o’r Pwyllgor Archwilio.

Awdurdod

Awdurdodir y Pwyllgor gan y Corff Llywodraethu i archwilio pob agwedd ar bolisïau, gweithdrefnau, strwythur a chynlluniau ariannol, adnoddau dynol ac ystadau’r Coleg.

Trafodion

Dylai’r Pwyllgor gyfarfod o leiaf ddwywaith bob blwyddyn academaidd, ac adrodd i’r Corff Llywodraethu yn y cyfarfod cyfleus nesaf.

Dyletswyddau

1. Cyfrifoldebau Gweithredol

A: Cyllid ac Ystadau

(i) Yn unol â’r Rheoliadau Ariannol, argymell bod cynigion gwario unigol neu brosiectau gwerth dros £100,000 yn cael eu cymeradwyo neu eu gwrthod cyn mynd at y Corff Llywodraethu i gadarnhau’r penderfyniad;

(ii) Yn unol â’r Rheoliadau Ariannol, argymell bod dyledion gwerth dros £25,000 yn cael eu dileu ai peidio cyn mynd at y Corff Llywodraethu i gadarnhau’r penderfyniad;

(iii) argymell bod y Corff Llywodraethu’n cymeradwyo neu’n gwrthod rheoliadau ar gyfer buddsoddi arian dros ben a gofynion benthyg yn unol â’r canllawiau awdurdodedig;

(iv) argymell bod unrhyw bolisïau neu weithdrefnau a nodir yn y rhestr awdurdod dirprwyedig yn cael eu cymeradwyo ai peidio cyn mynd at y Corff Llywodraethu i gadarnhau’r penderfyniad;

B: Adnoddau Dynol

(i) argymell bod y Corff Llywodraethu’n cymeradwyo neu’n gwrthod polisïau a gweithdrefnau a nodir yn y rhestr awdurdod dirprwyedig sy’n ymwneud ag adnoddau dynol (yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â recriwtio a phenodi, rheoli a gwerthuso perfformiad, hyfforddiant a datblygiad, cwynion a disgyblu, rheoli absenoldeb, iechyd a diogelwch a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant);

2. Cyfrifoldebau Monitro

Monitro’r canlynol er mwyn rhoi cyngor i’r Corff Llywodraethu:

(i) y defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau;

(ii) solfedd y Coleg;

(iii) gweithdrefnau gweithredu cyllid a rheoliadau ariannol;

(iii) adroddiadau a chyfrifon ar gyfer gweithredu’r Coleg a’i is-gwmnïau;

(iv) perfformiad ariannol gan gynnwys craffu ar gyfrifon rheoli chwarterol, rhagolygon, cyllidebau a dangosyddion perfformiad allweddol ariannol;

(v) statws a diogelwch pob safle campws gan gynnwys datblygiadau mawr;

(vi) cynnydd ar ddatblygiadau mawr ar y campws;

(vii) gweithredu polisïau adnoddau dynol;

(viii) datblygiadau mewnol, allanol a chenedlaethol sy’n ymwneud ag adnoddau dynol.

3. Cyfrifoldebau Cynghori

Ystyried y canlynol a chynghori’r Corff Llywodraethu yn eu cylch:

(i) strategaethau’r Coleg mewn perthynas â chyllid, ystadau ac adnoddau dynol;

(ii) amcangyfrifon incwm a gwariant blynyddol;

(iii) dyraniad pobadnodd;

(iv) gwariant cyfalaf a dibrisiant;

(v) datganiad blynyddol o gyfrifon archwiliedig;

(vi) gwneud argymhellion i’r Corff Llywodraethu ynghylch cymeradwyo benthyciadau banc newydd neu newidiadau i delerau benthyciadau presennol;

(vii) goblygiadau adnoddau dynol o ganlyniad i newidiadau sylweddol yn y Coleg;

(viii) unrhyw faterion eraill sy’n cael eu cyfeirio at y Pwyllgor gan y Corff Llywodraethu.

Gweithdrefnau Adrodd

Bydd y pwyllgor yn darparu cofnodion ei gyfarfodydd i’r Corff Llywodraethu drwy’r Clerc i’r Corff Llywodraethu.

Bydd y Pwyllgor yn darparu adroddiadau ad hoc i’r Corff Llywodraethu yn ôl yr angen.

Trefniadau Clercio

Bydd y Clerc i’r Corff Llywodraethu hefyd yn Glerc i’r Pwyllgor Cynllunio Adnoddau.


Nicola Eyre, Clerc i’r Corff Llywodraethu

DIWYGIWYD: Gorffennaf 2024/Medi 2025 (Diweddariad – gostyngiad yn nifer y cyfarfodydd y flwyddyn yn unig)

CYMERADWYWYD: Medi 2024

ADOLYGIAD NESAF: Medi 2026

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch