Mae Coleg Penybont wedi rhannu gwybodaeth yn ddiweddar am ei gynlluniau uchelgeisiol i adeiladu campws newydd yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r cynllun yn cynnwys dymchwel safle’r orsaf heddlu bresennol yn Cheapside a fydd yn wag yn fuan, ynghyd â dymchwel hen faes parcio aml-lawr condemniedig nad yw’n weithredol mwyach.
Uchelgais y Coleg yw creu adeilad carbon sero, gyda chyfleusterau dysgu ac addysgu o safon yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer addysg ôl-16 ym Mhen-y-bont, gyda buddion cymunedol yn cynnwys theatr 200 sedd, siop goffi a mannau cyfarfod hyblyg.
Mae’r cynlluniau trawsnewidiol hyn yn cynrychioli buddsoddiad o £50 miliwn mewn sgiliau a hyfforddiant pobl ifanc ym Mhen-y-bont a’r aelodau hynny o’r gymuned sydd angen cyfleoedd i ailhyfforddi ac ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr. Bydd y buddsoddiad hefyd yn adfywio canol tref Pen-y-bont, gan wella parth y cyhoedd a lleihau ein heffaith amgylcheddol, gyda chynlluniau i gysylltu â system wres ardal newydd Pen-y-bont. Bydd y buddsoddiad hwn, a ariennir yn rhannol gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o adfywio canol tref Pen-y-bont, gan gefnogi busnesau lleol a hybu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y dref.
Dywedodd Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont, Simon Pirotte OBE:
“Rwy’n hynod falch o’r siwrnai barhaus o lwyddiant y mae’r coleg wedi bod arni; mae’r cynlluniau hyn yn cynrychioli’r bwriad cryf sydd gennym, ynghyd â’n partneriaid allweddol, i adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn angerddol ac yn ymroddedig i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac mae’r prosiect hwn yn darparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer addysg a dysgu gydol oes ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae ein cynllun strategol yn amlinellu ein huchelgais i ddarparu cyfleusterau o safon y 21ain ganrif i’n myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ynghyd â gostyngiad parhaus yn ein hallyriadau carbon. Rwy’n hynod falch y bydd y cynlluniau hyn yn cyflawni’r ddau ymrwymiad yma.”