Rydym wrth ein bodd bod Pennaeth Cymraeg y Coleg, Carys Swain, wedi ennill y wobr Cyfraniad Arbennig yng ngwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.
Mae’r seremoni wobrwyo flynyddol yn cydnabod ymdrechion a chyflawniadau myfyrwyr, prentisiaid ac addysgwyr ledled Cymru sydd wedi cyfrannu at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog bob blwyddyn.
Mae’r wobr Cyfraniad Arbennig yn gategori newydd, sydd â’r nod o gydnabod unigolyn mewn coleg addysg bellach neu ddarparwr prentisiaeth am eu hymdrechion i ddylanwadu ar y ddarpariaeth Gymraeg yn eu sefydliad.
“Mae angerdd yn air rydyn ni’n ei ddefnyddio’n aml ond mae’n wir yn berthnasol i waith Carys. Hi sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yng Ngholeg Penybont ac, o ganlyniad i’w phenderfyniad a’i brwdfrydedd pur, mae nifer y tiwtoriaid sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwersi wedi cynyddu’n aruthrol.
Mae’n rhoi cymaint o’i hamser sbâr i annog a chefnogi staff i baratoi ar gyfer arholiadau Cymraeg. Yn wir, mae hi ar gael bob amser o’r dydd i gefnogi myfyrwyr a chydweithwyr fel ei gilydd.
Ar ben hynny, ar nodyn personol, mae hi wedi dylanwadu’n fawr ar fy ymarfer fel arweinydd.
Ni allaf feddwl am unrhyw un sy’n haeddu’r wobr hon yn fwy na hi, ac rwyf wrth fy modd bod gyrfa o waith caled, ymrwymiad a llawer o hwyl wedi cael ei chydnabod.”
Simon Pirotte, Prif Weithredwr a Phennaeth Coleg Penybont
Mae gan Carys, sy’n credu’n gryf mewn dysgu gydol oes, dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector addysg bellach. Ymunodd â Choleg Penybont yn 2002 fel Tiwtor Cymraeg a Chydlynydd Iaith ac mae hi wedi dal sawl rôl yn y Coleg ers hynny. Bellach mae’n gweithio fel Pennaeth y Gymraeg. Mae Carys hefyd wedi gweithio ochr yn ochr ag Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, fel Arolygydd Cymheiriaid ers 2014.
“Mae wedi bod yn bleser llwyr gweithio gyda thîm angerddol, myfyrwyr brwd a chydweithwyr cefnogol i annog y Gymraeg yn ein Coleg. Mae gweld pobl yn ymgysylltu â’r Gymraeg yn fy ngwneud i’n falch iawn, a dwi wrth fy modd â’r camau mawr rydyn ni wedi’u cymryd i wneud y Gymraeg a gweithgareddau diwylliannol mor hygyrch a chynhwysol â phosibl.”
Carys Swain, Pennaeth y Gymraeg yng Ngholeg Penybont
































































