Mae llawer o swyddi cyffrous yn y diwydiant twf hwn a chynigiwn gyfleusterau rhagorol i gefnogi eich dysgu mewn rheoli gerddi, dylunio gerddi a thirlunio proffesiynol. Dan arweiniad ein darlithwyr profiadol, byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o waith ymarferol a theori. Caiff ein myfyrwyr brofiad helaeth drwy gynnal ein tiroedd a’n gerddi helaeth, cynhyrchu planhigion a bwyd yn ein twneli poli a thŷ gwydr, a datblygu sgiliau tirlunio caled yn ein hardal hyfforddi bwrpasol.