Mae ein holl gyrsiau gwallt, harddwch a therapïau ategol yn anelu i’ch paratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiannau cyffrous a thwf hyn. Mae darlithwyr gwadd ac ymarferwyr yn helpu ein myfyrwyr i dysgu’r sgiliau a thechnegau diweddaraf gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Bydd Salon 31, ein salon trin gwallt, barbwr a harddwch ar y campws, yn eich helpu i ddefnyddio eich sgiliau ymarferol a damcaniaethol, datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chynnig ymgynghoriadau cefnogol.