Cyfraith

Rydym yn casglu datganiadau o ddiddordeb am ein cyrsiau cyfraith i oedolion a ariennir.
Caiff y cyrsiau hyn eu hasesu drwy gyflwyno portffolio yn hytrach na sefyll arholiad.
Mae modd i chi astudio’r cyrsiau hyn wyneb yn wyneb neu ar-lein gan ddefnyddio dyfais arall heblaw ffôn symudol.
Bydd pob cwrs yn rhedeg am 10 wythnos, gan ddechrau ym mis Ionawr 2027, mis Ebrill 2027 a mis Medi 2027.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol i astudio uned sylfaen yn y gyfraith. Rhaid i chi gwblhau o leiaf un o’r unedau sylfaen yn y gyfraith sydd ar gael cyn symud ymlaen i uned astudio uned uwch yn y gyfraith.
Y Gyfraith: Pwerau'r Heddlu i Reoli Unigolion (Sylfaen) (Tymor 3)
Mae cwrs Pwerau'r Heddlu’n rhoi cipolwg ymarferol ar sut mae rheolau cyfreithiol yn llywodraethu gweithredoedd yr heddlu, megis arestiadau, gwarantau, a gweithdrefnau stopio a chwilio. Os oes gennych ddiddordeb mewn hawliau cyfreithiol a rhyddidau sifil, neu os ydycheisiau deall sut mae'r gyfraith yn gweithio ar y stryd, mae'r cwrs hwn yn rhoi eglurhad clir o gysyniadau plismona bob dydd a hawliau unigolion.
Ar ôl cwblhau’r uned hon, bydd myfyrwyr yn cael dyfarniad Pwerau'r Heddlu i Reoli Unigolion Lefel 1 gan Agored Cymru
Y Gyfraith: Deall Rhagfarn a Gwahaniaethu (Sylfaen) (Tymor 3)
Mae cwrs Deall Cydraddoldeb, Rhagfarn a Gwahaniaethu’n cynnig ffordd glir a strwythuredig o archwilio sut mae cymdeithas yn trin gwahanol grwpiau o bobl. Os oes gennych ddiddordeb mewn materion cymdeithasol neu hawliau dynol, neu os ydych eisiau deall y byd o'ch cwmpas ychydig yn well, mae'r cwrs hwn yn cynnig y cyfle i ddysgu am y cysyniadau allweddol sy'n llywio rhyngweithiadau bob dydd a bywyd cymunedol.
Ar ôl cwblhau’r uned hon, bydd myfyrwyr yn cael dyfarniad Deall Rhagfarn a Gwahaniaethu Lefel 1 gan Agored Cymru














