Mae ein tîm chwaraeon yn ymroddedig i ddarparu profiad astudio rhagorol i fyfyrwyr, y tu mewn a hefyd tu allan i’r ystafell ddosbarth. Byddwch yn dysgu damcaniaeth ac yn datblygu’r sgiliau ymarferol sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant chwaraeon ac i wella eich perfformiad corfforol fel athletydd yn y maes a ddewiswyd gennych. Bydd ein cyfleusterau helaeth yng Nghampws Pencoed, ynghyd â’n tiwtoriaid angerddol a chefnogol, yn eich helpu i gyflawni eich nod. Mae gennym hefyd Academi Pêl-droed ac Academi Rygbi fydd yn eich helpu i ddatblygu ymhellach fel chwaraewr ac unigolyn.